Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 12 Rhagfyr 2017.
Wel, 'glasganmol' fyddwn i'n galw hynna. Dychwelaf y cyfarchion iddo yntau. Edrychaf ymlaen at gwestiynau mwy perthnasol ganddo yn y dyfodol. Serch hynny, ni fydd ef a minnau yn cytuno pan ddaw i'r newid yn yr hinsawdd. O ran allyriadau carbon, rwyf i o'r farn bod y rhan helaethaf o lawer o wyddoniaeth yn dangos bod y newid yn yr hinsawdd yn digwydd a bod bodau dynol yn cael effaith ar y newid yn yr hinsawdd, ac mae'n rhaid i ni yng Nghymru chwarae ein rhan, yn union fel unrhyw wlad arall.