Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 12 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:39, 12 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, rwyf i wedi codi'r cwestiwn o ddigartrefedd gyda chi sawl gwaith eleni, yn y gobaith y byddech chi'n cymryd camau pellach. Mae'r tymheredd diweddar sydd wedi gostwng yn sydyn yn rhoi lefel newydd o bwys i'r pwnc hwn. Ym mis Hydref, gofynnais i chi ddiddymu prawf Pereira, a fyddai'n rhoi terfyn ar angen blaenoriaeth fel bod gan bawb sy'n cael eu canfod yn ddigartref hawl i lety wedyn. Bryd hynny, fe ddewisoch ateb gwahanol gwestiwn. Fe wnaethoch ateb trwy ddweud nad oeddech chi'n credu y dylid datganoli lles. A allaf i gael ateb i'r cwestiwn a ofynnais mewn gwirionedd heddiw felly? A wnewch chi ddiddymu prawf Pereira, a fyddai'n rhoi terfyn ar angen blaenoriaeth a digartrefedd bwriadol?