Part of the debate – Senedd Cymru am 4:16 pm ar 12 Rhagfyr 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i roi croeso cyffredinol i ddiweddaru strategaeth trafnidiaeth Cymru Llywodraeth Cymru? Rwy’n meddwl ei bod yn briodol i ddiweddaru’r strategaeth er mwyn ystyried pwerau newydd a deddfwriaeth ddiweddar. Rwyf hefyd yn cytuno bod seilwaith trafnidiaeth di-dor yn allweddol i dwf economaidd. Wrth gwrs, ers blynyddoedd rydym ni wedi clywed sôn am ffordd liniaru'r M4, ac rwyf i braidd yn bryderus am ychydig o droi’n ôl ar rai ymrwymiadau ynghylch gwella cysylltedd mewn rhannau eraill o Gymru, fel yr A40 a'r A55, felly rwy’n gobeithio y gall Ysgrifennydd y Cabinet roi rhywfaint o sicrwydd y caiff y gwelliannau hanfodol hyn eu hystyried yn flaenoriaeth fel rhan o’r strategaeth drafnidiaeth newydd.
Mae gennyf i bryderon go iawn, fodd bynnag, bod ein seilwaith traffig yn siomi aelodau o'r cyhoedd. Clywodd Ysgrifennydd y Cabinet fy nghwestiwn i'r Prif Weinidog y bore yma ynglŷn â gwasanaethau trenau Arriva, ac ynglŷn â’r llinell Cambria. Rwyf i hefyd yn gwybod bod nifer y gwasanaethau bysiau cofrestredig sy'n gweithredu yng Nghymru wedi gostwng yn ddramatig yn y blynyddoedd diwethaf. Ac wrth gwrs, effaith economaidd ymarferol ein rhwydwaith trafnidiaeth annigonol yw tagfeydd difrifol, sy'n costio biliynau i yrwyr a chymunedau Cymru bob blwyddyn. Nodweddir masnachfraint bresennol Cymru a'r gororau gan orlenwi a thanfuddsoddi—rwy’n gwybod hynny o fy nheithiau fy hun ar y rhwydwaith—cafodd cyfanswm o £2.1 miliwn ei dorri, wrth gwrs, o gyllid bysiau gyda chymorth yn 2015-16. Mae hynny'n ostyngiad o 11.3 y cant. A rhaid i unrhyw strategaeth trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol ymdrin â'r materion trafnidiaeth acíwt hyn.
Rwy’n croesawu cyhoeddi’r datganiad sefyllfa polisi i wella hygyrchedd a chynwysoldeb y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Fodd bynnag, mae gennyf bryderon ynghylch a fyddwn ni'n cyflawni'r rhwymedigaethau deddfwriaethol: erbyn 2020, mae'n rhaid i bob gorsaf a phob trên fod yn gwbl hygyrch, ac ar hyn o bryd dim ond 53 y cant o orsafoedd Cymru sy’n darparu hygyrchedd llawn. Gan fod masnachfraint Trenau Arriva wrth gwrs yn dod i ben y flwyddyn nesaf, does dim rhwymedigaeth gyfreithiol arnyn nhw i gyflawni'r gwelliannau hyn, felly fy nghwestiwn i yw: a yw Cymru ar y trywydd iawn i gyflawni'r gwelliannau hyn, ac i gyflawni’r gofynion deddfwriaethol pwysig hyn i sicrhau bod gan bobl anabl ledled Cymru fynediad cwbl hygyrch i'r rhwydwaith rheilffyrdd?
Gwnaethoch chi hefyd gyfeiriad at swyddfa’r comisiynydd traffig yng Nghymru yn eich datganiad. Dywedodd y Comisiynydd wrth Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau rai wythnosau'n ôl nad oes ganddo swyddfa na staff hyd yn oed. Felly, gan eich bod wedi sôn am ei swyddfa yn eich datganiad, tybed a allech chi gynnig unrhyw gymorth yn y maes hwnnw.
Rydych chi hefyd yn nodi’r cynnydd yn y galw am gerbydau preifat a'r heriau y bydd hynny’n eu hachosi o ganlyniad i ddeddfwriaeth newydd ar gyfer lleihau allyriadau carbon. Felly, a gaf i ofyn pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu rhwydwaith o fannau gwefru cerbydau trydan ledled Cymru, fel rhan o’r strategaeth drafnidiaeth newydd hon, i sicrhau bod ein gwlad yn amlwg yn addas ar gyfer y dyfodol? Hoffwn i eich atgoffa eich bod wedi dweud wrthyf o'r blaen nad oes gennych unrhyw gynlluniau uniongyrchol i ddefnyddio arian cyhoeddus ar gyfer seilwaith cerbydau trydan. Cyn belled ag y gallaf i ei ddeall, nid oes gan lywodraeth Cymru unrhyw bolisi ar waith ar hyn o bryd ar y mater hwn. Felly, o ystyried, wrth gwrs, cyhoeddiad Llywodraeth y DU yn nodi eu dymuniadau i gael gwared yn raddol ar geir diesel erbyn 2040, rwy'n gofyn a allech chi efallai newid eich safbwynt yn hyn o beth. Byddwn yn croesawu unrhyw newid agwedd gan Lywodraeth Cymru drwy’r strategaeth drafnidiaeth hon, fel y gallwn fodloni rhwymedigaethau o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech wneud sylw ar hynny.
Rwy’n falch y byddwch yn diweddaru’r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol yn flynyddol. Rwy’n croesawu hynny'n fawr. Ac rwyf wedi osgoi, Dirprwy Lywydd, dweud y geiriau 'Ac yn olaf' y tro hwn. [Chwerthin.]