Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 12 Rhagfyr 2017.
Diolch, Llywydd. Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn parhau i wneud gwaith pwysig yn yr hinsawdd wleidyddol heriol presennol, a hoffwn innau hefyd ddiolch iddyn nhw am eu gwaith. Ddydd Sul oedd Diwrnod Hawliau Dynol—cydraddoldeb, cyfiawnder a rhyddid rhag trais ydy rhai o’r themâu mawr. Mae cwmpas gwaith y comisiwn yn eang, ac felly heddiw rydw i wedi penderfynu canolbwyntio ar un agwedd benodol ar gydraddoldeb a hawliau dynol, sef rhyddid rhag trais, ac, yn fwy penodol, rhyddid merched a genethod i fyw heb ofni trais a chamdriniaeth ddomestig.
Yn ôl Byw Heb Ofn, sy’n ymgyrchu i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, mae 7.7 y cant o ferched wedi adrodd eu bod nhw wedi profi rhyw fath o drais yn y cartref—tua 1.2 miliwn ledled Cymru a Lloegr. Mae’r ffigur yn debygol o fod llawer uwch, o gofio natur guddiedig y math yma o drais.
Nid wyf am ymddiheuro am ddefnyddio’r ddadl prynhawn yma i hoelio sylw ar yr un agwedd yma. Mae trais yn erbyn merched ar gynnydd ac yn arwydd o ddiffyg cydraddoldeb systemig o fewn ein cymdeithas heddiw. Mae’n gwelliant ni yn gresynu am y diffyg cynnydd wrth weithredu’r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Mae’r gwelliant yn debyg i un y Ceidwadwyr. Y gwahaniaeth ydy bod y gwelliant hwnnw’n nodi bod angen gweithredu, tra bod ein gwelliant ni yn gresynu nad ydy’r gweithredu wedi digwydd yn ddigonol. Mater o eiriau, efallai, ond mae yna wahaniaeth pendant.
Yr wythnos diwethaf, wrth holi’r Gweinidog cydraddoldeb, mi wnes i amlinellu rhes o broblemau gyda gweithredu’r ddeddfwriaeth bwysig yma, ac mi oeddwn i’n falch o glywed y Gweinidog cydraddoldeb yn cydnabod y problemau ac yn dangos awydd i symud ymlaen efo’r materion. Dyma sydd wedi dod i’r amlwg: nid oes yna gynllun gweithredu o hyd ar gyfer gweithredu’r strategaeth trais yn erbyn merched, dros flwyddyn wedi’i chyhoeddi. Roedd y strategaeth ei hun yn wan ac wedi’i chyhoeddi ar frys er mwyn cydymffurfio â’r amserlenni a gafodd eu rhestru yn y Ddeddf. Ymddengys na chyhoeddwyd canllawiau yng nghyswllt strategaethau lleol. Nid yw’r grŵp arbenigol ar addysg am berthynas iach wedi cyhoeddi ei argymhellion ar y cwricwlwm newydd. Roedd y rheini i fod allan yn yr hydref. Yr wythnos diwethaf, clywyd mai yn y flwyddyn newydd y bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi. Ni wnaf i ymhelaethu—mae yna fwy ac mi wnes i restru’r rheini’n llawn yr wythnos diwethaf.
Mae’n hollol amlwg, felly, fod yna gryn lusgo traed. Yn anffodus, mae rhai o fewn y Llywodraeth yn dal i feddwl bod popeth yn iawn ac yn clodfori’r Ddeddf. Yn gynharach heddiw, cawsom ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus a oedd yn honni, unwaith eto, fod y Ddeddf yn torri tir newydd. Un peth ydy torri tir newydd drwy ddeddfwriaeth, peth arall ydy’i gweithredu. Nid ydy hi'n ddigon i yrru deddfwriaeth drwy’r Siambr yma ac wedyn eistedd nôl yn disgwyl i bopeth ddisgyn i'w le. Yn wir, unwaith bod sêl bendith frenhinol wedi cael ei chyflwyno, bryd hynny ydy’r amser i weithredu er mwyn cyflawni’r newid rydym ni am ei weld.
Ni wnaf i dderbyn bod y Ddeddf yma’n arloesol ac yn torri tir newydd tan imi weld bod yr ystadegau ynglŷn â cham-drin domestig yn dechrau gostwng. Ni wnaf i dderbyn bod y Ddeddf yma’n arloesol tan imi ddechrau gweld newid ymddygiad gwirioneddol gan ein sefydliadau ac yn ein cymdeithas. Mae rhyddid merched i fyw heb drais ac i fyw heb ofni trais yn hawl dynol sylfaenol, di-gwestiwn. Rydw i’n mawr obeithio y gwelwn ni weithredu buan gan y Llywodraeth er mwyn symud yr agenda yma ymlaen ar ôl y llusgo traed rydym ni wedi ei weld. Mi fyddaf i’n craffu’r gwaith yn ofalus ac rydw i’n mawr obeithio y gallwn ni adrodd stori llawer mwy cadarnhaol wrth inni drafod adroddiad blynyddol y comisiwn y flwyddyn nesaf, ac rwy'n hapus iawn i gydweithio efo’r Gweinidog cydraddoldeb ar hyn. Diolch.