Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru

Part of QNR – Senedd Cymru ar 12 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

Rydym ni wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal o ansawdd uchel, gan ganolbwyntio ar ganlyniadau ac anghenion yr unigolyn. Mae ein fframwaith strategol ‘Mwy na geiriau’ yn gosod ein hymrwymiad a’r camau sy’n cael eu cymryd i gefnogi a chryfhau’r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg mewn iechyd a gofal, gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl.