Cyllid Myfyrwyr Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 13 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 1:38, 13 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, gwnaed cyhoeddiad gan Jo Johnson dros y penwythnos ynglŷn â rhai o'r newidiadau y mae'n eu gwneud i gyrsiau prifysgol ac argaeledd cyrsiau dwy flynedd yn y system addysg uwch yn Lloegr. Yn amlwg, mae cyllid myfyrwyr a'r ddyled y mae myfyrwyr yn ei hysgwyddo yn peri cryn bryder i lawer o fyfyrwyr wrth iddynt ystyried eu hopsiynau. A ydych wedi gwneud unrhyw asesiad o hyfywedd cyrsiau gradd dwy flynedd a'r cyfleoedd y byddent yn eu creu i lawer o fyfyrwyr sy'n dymuno'u dilyn drwy sicrhau, efallai, bod y cyrsiau hynny ar gael yma yng Nghymru?