Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae penaethiaid y siaradais â hwy yn Sir Benfro yn ddiweddar wedi mynegi pryderon eu bod yn teimlo y gall rhoi pwysau ar ddisgyblion ôl-16 i astudio bagloriaeth Cymru gael effaith andwyol ar ddyfodol disgyblion, o gofio nad yw rhai prifysgolion yn Lloegr yn cydnabod y cymhwyster o hyd. Nawr, rwy'n llwyr gefnogi bagloriaeth Cymru, ac wrth gwrs, nid yw'n orfodol o ran ei natur. A allwch gadarnhau pa ganllawiau a gyhoeddir i ysgolion i sicrhau bod athrawon yn hyrwyddo'r amrywiaeth lawn o opsiynau i ddisgyblion ôl-16 yn gyfartal, fel y gall myfyrwyr yn Sir Benfro, ac yn wir, ledled Cymru, gael yr addysg orau bosibl?