Addysg yn Sir Benfro

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 13 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:16, 13 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddychwelyd at yr achos a nododd Llyr Gruffydd yn gynharach, ynglŷn â Dylan Seabridge a'r gwersi y mae angen inni eu dysgu o'r profiad hwnnw? Fe ddyfynnaf o'r adolygiad achos, a ddywedai'n benodol, 'Mae'n bosibl, pe bai gweithiwr gofal plant neu weithiwr iechyd proffesiynol wedi gweld neu siarad â'r plentyn yn ystod cyfnodau diweddarach ei fywyd, y byddent wedi sylwi ar y ffaith bod ganddo rai problemau iechyd nad oedd y rhieni yn ceisio cymorth priodol ar eu cyfer.' Credaf fod hynny'n ymwneud â maes addysgu yn y cartref a'r gofrestr rydych wedi'i chrybwyll. Gwyddom hefyd fod Llywodraeth yr Alban wedi sôn am unigolyn a enwir ar gyfer pob plentyn, er mwyn sicrhau dilyniant o ran gofal ac i sicrhau bod pob plentyn yn derbyn gofal ac yn cael eu diogelu'n briodol. A yw hynny'n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen ag ef? Neu a all ychwanegu at yr hyn a ddywedodd wrth Llyr Gruffydd yn gynharach ynglŷn â sicrhau na chaiff achos Dylan Seabridge mo'i ailadrodd byth?