Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Rwyf bob amser yn teimlo ei bod yn hawdd i'r wrthblaid feddwl am atebion, ond pan fyddwch yn Llywodraeth, mae'n rhaid i chi wneud penderfyniadau, ac mae'r penderfyniad hwn yn ymwneud â lle'r gweithlu iechyd yn ei gymuned a gwahanol rannau o'r wlad. Yn hynny o beth, croesawaf y cynnydd a wnaed gan ein hymgyrch 'Hyfforddi, Gweithio, Byw' a'r buddsoddiad diweddar i gynyddu nifer y nyrsys, ffisiotherapyddion ac ymwelwyr iechyd galwedigaethol. Rwy'n gofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddech yn cytuno â mi ein bod angen hyfforddi rhagor o feddygon—ac rwy'n derbyn hynny—ond er mwyn iddynt allu chwarae eu rhan mewn gweithlu pwysicach a mwy amlddisgyblaethol, fod angen i ni drin pobl yn nes at adref, ac mai un elfen yn unig yw meddygon mewn system gyfan?