5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: Heb gyrraedd gwreiddyn y mater: uchelgais newydd ar gyfer polisïau coetiroedd

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:16 pm ar 13 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 4:16, 13 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl heddiw fel cyfle i drafod yr hyn sydd, mae'n debyg, yn ddyheadau a rennir ar gyfer coetiroedd Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un ond un o'r argymhellion, ac rwy'n gwneud yn siŵr ein bod yn dechrau gweithredu arnynt. Mae cadeirydd y pwyllgor wedi ysgrifennu ataf, yn gofyn am eglurhad ynghylch ymateb y Llywodraeth, ond teimlwn y byddai'n ddefnyddiol clywed yr hyn a ddywedodd yr Aelodau yn y ddadl hon cyn ymateb i'r llythyr a gwaith y Pwyllgor. Ac wrth gwrs buaswn yn croesawu trafodaeth barhaus ar y mater hwn.

Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am adroddiad sydd wedi bod yn ddefnyddiol ac sy'n cynnwys argymhellion deallus. Mae wedi helpu i ganolbwyntio fy meddwl a chryfhau fy marn y byddai gwella ac ehangu coetiroedd Cymru ymhlith fy mhrif flaenoriaethau fel Gweinidog yr amgylchedd. I'r perwyl hwnnw, roedd un o fy nghyfarfodydd cyntaf fel Gweinidog gyda'r Cydffederasiwn Diwydiannau Coedwigoedd. Gwnaeth rhanddeiliaid hi'n glir yn y cyfarfod hwn fod angen inni fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd y mae Brexit yn eu cynnig i'r sector coedwigaeth, ac ystyried y rôl y gall coedwigaeth a choedwigwyr eu chwarae yn ein dull o reoli tir yn y dyfodol.

Mae newid yn y defnydd tir yn anochel, a chredaf fod yn rhaid i ni ddefnyddio'r holl ddulliau sydd gennym, o ran polisi, arian a rheoleiddio, i wneud yn siŵr fod y newidiadau hyn er gwell. Rydym am ddefnyddio ein tir i ddarparu nwyddau cyhoeddus ychwanegol, ac mae hyn yn hollbwysig os ydym i gyflawni ein hymrwymiad i ecosystemau gwydn a datgarboneiddio yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Rwyf am fynd i'r afael â nifer o'r materion allweddol a godwyd gan y pwyllgor yn ei adroddiad, mewn gohebiaeth ac yn ystod y ddadl heddiw—gan gynnwys plannu o'r newydd, gwydnwch coetiroedd, y cyflenwad pren, rôl cymunedau a datgarboneiddio.

Yn amlwg, mae angen inni ddechrau gyda phlannu newydd, a gofynnodd y pwyllgor beth yn benodol y dylem ei wneud yn wahanol. Rwy'n ymwybodol iawn nad oes digon o goed yn cael eu plannu. Mae angen cymysgedd o goetiroedd ar Gymru. Dylai ein coedwigoedd fod yn gyfuniad o'r mawr a'r bach, a chynnwys conwydd a rhywogaethau dail llydan, a chymysgedd o goedwigaeth fasnachol ac amgylcheddau tawel, bioamrywiol, naturiol. Ond rwy'n cydnabod y gall gwrthdaro ddigwydd rhwng yr amcanion hyn, ac rwy'n awyddus i weithio gyda rhanddeiliaid i ddeall y problemau ac i ganfod ffordd o'u datrys. Mae hyn yn debygol o olygu mabwysiadu ymagwedd sy'n seiliedig ar leoedd, gan nad yw pob math o goetir yn iawn ar gyfer pob rhan o Gymru, ac nid drwy Glastir neu'r Llywodraeth yn unig y mae cyflawni'r gwaith o greu coetiroedd. Mae creu coetiroedd ar raddfa fawr yn galw am gydweithredu, cydweithio, arloesedd a chynnwys amrywiaeth o bartïon â diddordeb. Dyma pam rydym wedi sefydlu cynllun cynllunio coedwigoedd cydweithredol i gefnogi dulliau strategol a symbylir gan randdeiliaid er mwyn dod o hyd i'r mannau cywir i blannu coetiroedd newydd a beth i'w blannu yno. Rwy'n cydnabod y bydd yna heriau, ond mae cam cyntaf y cydweithredu wedi cychwyn, ac rwy'n annog cyfranogwyr i barhau gyda'r ymdrechion hyn.

Hefyd hoffwn archwilio rôl reoleiddio fel rhwystr. Rydym wedi gofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru edrych yn ofalus ar y ffordd y maent yn gweithio fel y gallant gael gwared ar gymhlethdod a nodi cyfleoedd ar gyfer plannu coetiroedd newydd. Roedd gennyf ddiddordeb gwirioneddol yn y syniadau a gyflwynwyd gan y pwyllgor, gan gynnwys y posibilrwydd o ragdybiaeth o blaid cymeradwyo coetiroedd mewn ardaloedd penodol. Byddaf hefyd yn sicrhau ein bod yn cryfhau'r canllawiau ar y map cyfleoedd coetiroedd, gan adeiladu ar adborth gan ddefnyddwyr ynglŷn â'r lleoedd y gall creu coetiroedd wneud y lles mwyaf. Rhaid inni hefyd ystyried y rhyngweithio rhwng coedwigaeth a'n systemau cymorth amaethyddol. Rydym wedi talu dros £2 filiwn drwy Glastir i greu coetiroedd hyd yma. Mae ffermwyr sy'n plannu coed yn cael taliadau blynyddol ac yn parhau i dderbyn taliad sylfaenol am oddeutu 12 mlynedd ar ôl plannu, ond rydym yn chwilio'n gyson am ffyrdd newydd i wella'r broses ymgeisio ar gyfer Glastir, a byddwn yn adeiladu ar y gwersi o ran cynllunio mecanweithiau cymorth yn y dyfodol. Mae Brexit yn dod â heriau i Gymru yn gyffredinol, ond mae hefyd yn dod â chyfle i ailgynllunio systemau cymorth er mwyn dileu rhagfarnau yn erbyn coedwigaeth. Mae'n amlwg y gallwn wneud mwy, a bwriadaf ymweld â'r Alban yn y flwyddyn newydd i ddysgu mwy o'r llwyddiant cymharol a gawsant yn creu coetiroedd newydd yno.

Os edrychwn yn awr ar iechyd coed a gwydnwch, mae'r strategaeth coetiroedd yn annog arallgyfeirio coetiroedd drwy wella gwydnwch. Gwers yr achosion o phytophthora ramorum mewn coed llarwydd a chlefyd coed ynn yw na allwn fforddio dibynnu ar ychydig o rywogaethau coed yn unig. Rydym eisiau i'n coetiroedd fod yn fwy amrywiol a gwydn, ac mae cyfoeth o gyngor a hyfforddiant ar gael i berchnogion coetiroedd gan Forest Research, Cyfoeth Naturiol Cymru a thrwy Cyswllt Ffermio. Ond rydym hefyd yn gwneud yn siŵr ein bod yn mynd ati'n gyflym i adfer coetiroedd pan fyddant wedi cael eu niweidio, a'n bod yn cefnogi'r gwaith o reoli coetiroedd wedi'u heintio drwy gynllun adfer coetiroedd Glastir.

Gan droi at gynhyrchu coed, dylem hefyd roi camau ar waith i sicrhau bod coetiroedd presennol yn fwy cynhyrchiol. Yn rhan bwysig o hyn, gellir cynnwys adfer rheolaeth ar goetiroedd nad ydynt yn cael eu rheoli, cynyddu cynhyrchiant coed defnyddiadwy a chefnogi datblygiad busnesau lleol. Rwy'n awyddus i weithio gyda fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet a rhanddeiliaid i adeiladu cadwyn gyflenwi gynaliadwy ar gyfer pren a chynyddu'r galw am gynnyrch coed a biomas o Gymru, gan alluogi cwmnïau o Gymru i fasnachu'n rhydd, cael y gwerth gorau am eu cynnyrch gwyrdd a chefnogi swyddi gwyrdd.

Rydym wedi cymryd camau i hyrwyddo pren drwy'r rhaglen tai arloesol a grŵp newydd trawslywodraethol i astudio cadwyni cyflenwi. Fel rhan o hyn, mae arnaf eisiau archwilio'r achos dros egwyddor pren yn gyntaf ar gyfer tai ac adeiladau eraill yng Nghymru. Ac rwyf eisoes wedi siarad â'r Gweinidog tai am hyn, a bydd yna grŵp gweinidogol newydd ar gyfer symud pethau ymlaen.

Tu hwnt i economeg, rhaid inni beidio ag anghofio am y gwerth y gall cymunedau ei gael o'n coetiroedd. Dylai ein cymunedau gael cyfle i gymryd rhan yn y gwaith o reoli eu coetiroedd lleol. Clywais rai enghreifftiau arbennig o dda heddiw gan fy nghyd-Aelodau Vikki Howells a Jayne Bryant, a buaswn wrth fy modd yn clywed mwy amdanynt, i weld sut y gallwn rannu'r arferion gorau hynny fel rhan o'n strategaeth yn y dyfodol. Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi cefnogi Llais y Goedwig, rhwydwaith o grwpiau coetir cymunedol ledled Cymru sy'n helpu cymunedau i ymwneud â rheoli coetiroedd.

Gwrthododd Llywodraeth Cymru argymhelliad y pwyllgor i osod un targed ar gyfer plannu coed trefol ar draws yr holl awdurdodau lleol. Yn lle hynny, rydym am weld targedau lleol yn cael eu diwygio drwy ehangu'r defnydd o offeryn eco i-Tree ar gyfer monitro coed a choetiroedd trefol, gan sicrhau bod yr atebion cywir yn digwydd yn y mannau cywir.

Yn olaf, gall coedwigaeth chwarae rôl bwysig hefyd yn cyflawni ein nodau datgarboneiddio. Yn 2015 llwyddodd y sector coedwigaeth i gael gwared ar oddeutu 1 y cant o allyriadau Cymru, gan weithredu fel dalfa garbon. Mae cynyddu storfeydd carbon mewn coetiroedd yn cynnig ateb yn seiliedig ar natur i leihau allyriadau, atal llifogydd, gwella ansawdd aer a darparu—