Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Ie. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw ac am gyflwyno'r ddadl hon. Fel y dywedodd llawer o'r Aelodau eisoes, mae gwella ein system drafnidiaeth gyhoeddus yn gwbl hanfodol i ddyheadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ein gwlad. Hoffwn ddechrau drwy ddweud bod llawer iawn yn yr hyn a ddywedodd Lee Waters wrth agor y ddadl hon rwy'n cytuno'n llwyr ag ef yn eu cylch. Amlinellodd Lee faint yr her sydd o'n blaenau yn gywir, er enghraifft. Mae twf trafnidiaeth gyhoeddus wedi bod yn arwyddocaol iawn dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae'n debygol o gynyddu'n sylweddol yn y blynyddoedd i ddod. Fel yr amlinellodd Lee, ac fel y mae eraill wedi amlinellu yn eu hardaloedd eu hunain, mae'n anhygoel o anodd i bobl mewn llawer o gymunedau, a chymunedau gwledig yn arbennig, gysylltu â chymunedau eraill ar amser cyfleus a thrwy ddefnyddio gwasanaethau rheolaidd, gweddus, o ansawdd uchel. Dangosodd Lee, ac eraill, yn glir fod cysylltedd gwell yn hanfodol ar gyfer cefnogi twf economaidd a thwf yn y boblogaeth ym mhob rhan o Gymru. Rhannodd Aelodau eraill, fel Julie, astudiaethau achos penodol yn ymwneud â'r defnydd a'r angen am well trafnidiaeth gyhoeddus, trafnidiaeth gyhoeddus wedi'i hintegreiddio'n well. A bydd y prosiectau metro rydym yn eu datblygu yn y gogledd-ddwyrain ac yn ne Cymru yn rhai aml-foddol. Byddant yn rhwydweithiau teithio cyflym integredig, gyda gwasanaethau bws, trên a theithio llesol gwell yn ganolog iddynt.
Fel yr amlinellodd Julie, Jenny ac eraill, mae hefyd yn bwysig fod gan deithwyr hyder yn ansawdd gwasanaethau a bod safonau'n cael eu gosod yn gyffredinol ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus leol, ar draws Cymru gyfan. Fel y dywedodd Adam Price yn gywir, ni ddylai safon y gwasanaeth a ddarperir yn rhannau mwy gwledig ein gwlad fod o ansawdd is na'r rhai a ddarperir o fewn y metro neu rannau mwy trefol o'r wlad.
Nawr, ar y pwynt hwn, hoffwn ddweud rhywbeth am hygyrchedd, sy'n rhywbeth rwy'n ei ystyried yn hanfodol bwysig wrth gynllunio trafnidiaeth. Mae'n ofynnol i fysiau bellach gynnig seddau â blaenoriaeth, lloriau is a mannau ar gyfer cadeiriau olwyn. Mewn perthynas â chyhoeddi rhestrau tacsis sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn gan awdurdodau trwyddedu, gall teithwyr gael gwell gwybodaeth bellach ynglŷn ag argaeledd gwasanaethau tacsis sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn sy'n gweithredu yn eu hardaloedd. Ac wrth gwrs, o Ionawr 2020 hefyd bydd yn ofynnol i'r holl drenau sy'n gweithredu ar ein rheilffyrdd fodloni safonau hygyrchedd a osodir gan yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth y DU. Nawr, er bod y gwelliannau hyn i'w croesawu, heb amheuaeth, mae'n dal i fod angen gwneud rhagor er mwyn gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy cynhwysol ac yn fwy hygyrch. Mae'n rhywbeth rwyf eisiau help gan yr Aelodau yn y Siambr hon i'w wneud wrth inni symud ymlaen gyda'n system trafnidiaeth gyhoeddus yn yr ychydig flynyddoedd nesaf.
Un o'r rhwystrau allweddol i hygyrchedd a nodwyd gan lawer o bobl anabl, Ddirprwy Lywydd, yw diffyg cysondeb o ran y ffordd y darperir gwasanaethau a chyfleusterau. Yn ganolog i hyn, mae'r angen i drawsnewid y ddealltwriaeth o hygyrchedd a chynllunio cynhwysol ymhlith gweithwyr proffesiynol sy'n cynllunio, dylunio, adeiladu a gweithredu seilwaith trafnidiaeth a chyfnewidfeydd, gwasanaethau a strydluniau.
Mae'r amcanion hygyrchedd newydd a ddatblygwyd gennym a'r gweithgarwch sy'n sail iddynt wedi cael eu cynllunio gan fy mhanel trafnidiaeth hygyrch, sy'n cynnwys sefydliadau sy'n cynrychioli pobl anabl, pobl hŷn, pobl ag anableddau dysgu a grwpiau cydraddoldeb. Nawr, fel y dywedodd yr Aelodau, mae trafnidiaeth yn chwarae rôl ganolog wrth wella ffyniant, a ddoe lansiwyd y cynllun gweithredu economaidd, sy'n nodi pa mor bwysig yw seilwaith trafnidiaeth effeithiol ac integredig i ni allu cyrraedd ein nod o ffyniant i bawb. Mae un o'r newidiadau pwysig o ran dull o weithredu yn y ddogfen yn ymwneud â'r pwynt a wnaeth sawl un o'r Aelodau yn ystod y ddadl hon, sef yr angen i ddefnyddio prosiectau mawr megis y metro ar gyfer ymgymryd â chynlluniau mawr ym maes tai, defnydd tir, sgiliau a datblygu economaidd. Nid wyf yn gweld Trafnidiaeth Cymru ei hun yn dod yn asiantaeth ddatblygu annibynnol ar gyfer cyflawni hyn, ond byddaf yn disgwyl iddo weithio'n agos iawn gyda phartneriaid er mwyn cyflawni'r cynllunio cydgysylltiedig hwnnw y galwodd Lee ac eraill amdano, er mwyn manteisio ar y cynnydd mewn gwerthoedd defnydd tir wedi'i ysgogi gan fuddsoddiad mewn trafnidiaeth, ac i sicrhau ein bod yn datblygu tai a gwasanaethau yn y mannau cywir, gan gysylltu â buddsoddiadau trafnidiaeth.
Ddirprwy Lywydd, siaradodd nifer o'r Aelodau, gan gynnwys Lee Waters a Nick Ramsay am yr angen i fynd i'r afael â methiannau dadreoleiddio bysiau yn 1986, a byddwn yn gwneud hyn drwy gyfrwng diwygiadau radical y byddwn yn ymgynghori yn eu cylch yn y gwanwyn. Mae rhwydwaith bysiau Cymru yn cludo mwy na 100 miliwn o deithwyr y flwyddyn, ac rwy'n benderfynol y dylai'r nifer hon nid yn unig aros ar y lefel hon, ond y dylai gynyddu os ydym i fynd i'r afael â llygredd a thagfeydd ar y ffyrdd fel y disgrifiodd Jenny Rathbone. Hefyd mae gwasanaeth rheilffyrdd effeithlon ac effeithiol yn hanfodol i'r broses hon, ac rwy'n disgwyl i fasnachfraint newydd gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a'r gororau gyflawni hyn.
Mae hon yn adeg gyffrous i'r rheilffyrdd yng Nghymru yn fy marn i. Mae llawer iawn o weithgarwch yn mynd rhagddo i ddod o hyd i weithredwr a phartner datblygu i weithredu gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a'r gororau o fis Hydref y flwyddyn nesaf, ac i ddarparu metro de Cymru o 2023. Yn wir, yr ymarfer caffael hwn rydym yn ei gyflawni ar hyn o bryd yw'r broses gaffael unigol fwyaf a gyflawnwyd gan Lywodraeth Cymru erioed. Bydd y gwasanaethau trên newydd yn sicrhau newid sylweddol yn ansawdd teithio ar y rheilffyrdd ledled Cymru.
Nawr, bydd metro de Cymru yn darparu'r model y gallwn ei gyflwyno ar draws gweddill y wlad, a hefyd rydym eisoes wedi cyllido gwaith datblygu ar y cysyniad amlinellol o fetro ar gyfer de-orllewin Cymru yn y flwyddyn ariannol hon. Rwy'n falch iawn o ddweud bod Cyngor Sir Abertawe yn cydlynu'r gwaith mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol eraill, ac mae'r prosiect yn mynd rhagddo'n dda, gydag ymgynghorwyr wedi eu penodi ar gyfer datblygu'r cysyniad. Cynhaliwyd cyfarfod cychwynnol a gweithdy rhanbarthol, a bydd cyngor Abertawe yn parhau i ddatblygu'r cysyniad yn y flwyddyn ariannol nesaf, pan wneir gwaith i gymhwyso asesiad a phrawf mwy trylwyr o'r cysyniad drwy achos busnes amlinellol strategol. Bydd ein metros yn darparu llawer mwy na rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus gwell. Bydd yn darparu gwasanaethau amlach, gan ganiatáu i deithwyr deithio heb drefnu ymlaen llaw.