Part of the debate – Senedd Cymru am 5:08 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Dylwn ddweud bod Trafnidiaeth Cymru yn cael ei gynllunio fel grŵp arbenigol i allu cynnig cyngor a rheoli gwasanaethau rheilffyrdd. Credaf y bydd angen mwy na Trafnidiaeth Cymru yn unig i sicrhau'r gwerth mwyaf posibl i dir a chynlluniau defnydd tir fel yr amlinellodd yr Aelod ac eraill. Nid wyf yn gweld hon fel rôl ar gyfer Trafnidiaeth Cymru yn unig, ond ar gyfer llu mawr o bartneriaid yn gweithio gyda'i gilydd i fanteisio ar gynnydd mewn gwerthoedd tir a chyfleoedd ar gyfer datblygu. O ran gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog, er enghraifft, mae honno bellach yn anhygoel o brysur. Mae chwe gwaith yn brysurach nag unrhyw orsaf arall yng Nghymru, ond rwy'n falch o gyhoeddi bod gennym weledigaeth ar gyfer gorsaf Caerdydd Canolog fel canolfan drafnidiaeth o'r radd flaenaf, a heddiw gallaf gyhoeddi ein bwriad i ymrwymo i fenter ffurfiol ar y cyd gyda chyngor Caerdydd a'u datblygwr partner i ddatblygu'r weledigaeth hon. Byddwn yn dechrau drwy ganolbwyntio ar ddatblygu gorsaf fysiau newydd yng Nghaerdydd. Ein nod yw i'r fenter ar y cyd gyflawni ein holl uchelgeisiau ar gyfer y gyfnewidfa.
Ond nid Caerdydd yn unig sy'n mynd i elwa o'n gweledigaeth. Yfory, byddaf yn amlinellu arian ychwanegol ar gyfer cyfnewidfa drafnidiaeth mewn rhan arall o Gymru wrth i ni geisio cyflwyno metro gogledd Cymru, gan ledaenu ffyniant a chyfle unwaith eto ar draws y wlad. Amlinellwyd ein gweledigaeth am system drafnidiaeth integredig wedi'i thrawsnewid sy'n sicrhau twf economaidd ac yn sicrhau manteision o ran iechyd, diwylliant, cymdeithas a'r amgylchedd. Mae'n ymwneud â gwella seilwaith trafnidiaeth a gwasanaethau i leihau tagfeydd a gwella amseroedd teithio, y cydnabyddir eu bod yn hanfodol i sicrhau economïau ffyniannus ac amgylcheddau cynaliadwy.