Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Nid y'n mynd i newid sut rwy'n mynd i bleidleisio. Ond yn sicr mae wedi arwain at rywfaint o ystyried yn y Siambr hon ac ystyriaeth ddifrifol yn y Siambr hon, sy'n beth pwysig.
Rydym yn sôn am dopograffeg—soniodd Adam Price amdano—Cymoedd de Cymru. Roedd Adam Price yn cysylltu hynny ag adeiladu cenedl, fel y byddech yn ei ddisgwyl ac fel y mae'n ei wneud yn aml mor effeithiol. Ond nid wyf yn credu bod llawer y gallwch ei wneud am ein daearyddiaeth; mae'r hyn ydyw. Ond mae'r sbôcs sy'n bwydo i mewn i Gaerdydd wedi llesteirio ein gallu i gysylltu. A chredaf eich bod yn llygad eich lle: os ydych yn byw yng Nghaerffili, os ydych yn byw yng nghwm Rhymni, anaml iawn y byddech yn meddwl am neb sy'n bodoli yng nghwm Rhondda neu ym Mlaenau Gwent. Prin iawn y byddech yn meddwl am y peth, ac rwyf wedi dweud hynny o'r blaen yn y Siambr hon.
Felly, mae'n rhaid i ni gysylltu ein trafnidiaeth â pholisi economaidd, fel y dywedodd Lee Waters. Credaf ei bod hi'n iawn i ni ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet am ychydig rhagor o fanylion ynghylch rhai o'r pethau hyn yn y dyfodol, yn y flwyddyn newydd, i weld sut y gallwn glymu ein polisi economaidd mor agos â phosibl wrth y polisïau trafnidiaeth.
Crybwyllodd Nick Ramsay—roeddwn i'n gwybod y byddai'n codi ei ben pan ddywedwn ei enw—na ddylid cosbi'r modurwr mewn araith nad oedd yn cynnwys llawer iawn o wleidyddiaeth plaid—wedi'r cyfan, mae hi bron yn Nadolig. Dywedodd na ddylid cosbi'r modurwr, ond troediodd linell denau iawn yno a siarad am yr angen i ddod â thrafnidiaeth i'r economi wledig. Buaswn yn dweud fod ganddo—a gwn fod ganddo—gefnogwyr i hynny yn y Llywodraeth yn awr, sy'n teimlo'n gryf iawn am drafnidiaeth gynaliadwy yn yr economi wledig, ac mae ganddo ddrws agored yno os yw'n parhau i wthio mor adeiladol ag y gwnaeth yn ei araith. Credaf fod hynny'n eithaf pwysig.
Pwysleisiodd eraill, gan gynnwys Jenny Rathbone, effaith amgylcheddol ein gorddibyniaeth ar y car. Cytunaf yn llwyr â hynny. Unwaith eto, credaf eich bod yn fwy beiddgar na Nick Ramsay, Jenny Rathbone; credaf y byddech yn dod i sefyll ar gylchfan Pwll-y-Pant gyda mi ac y byddech yn dweud wrth bobl am adael eu ceir a mynd ar y trên. Yn hollol. Wel, mewn gwirionedd, ni fuaswn yn dweud 'gyda mi' oherwydd ni fuaswn i yno; byddech ar eich pen eich hun. [Chwerthin.] Ond yr hyn sy'n rhaid i ni ei wneud yw cael pobl allan o'r ceir ac ar drafnidiaeth gyhoeddus. Ond fel y dywedasoch yn gwbl briodol, a'r frwydr rwy'n ei chael yw bod yn rhaid i drafnidiaeth gyhoeddus allu sicrhau capasiti ac mae'n rhaid iddo fod yn ddigon da. Dyna sgwrs a gefais gyda Trenau Arriva ac mae'n her a roesoch i Ysgrifennydd y Cabinet. Fe ofynnoch chi i Ysgrifennydd y Cabinet, 'Sut rydych yn bwriadu ymdrin â thrydaneiddio a'r ansicrwydd ynghylch ariannu?' Nid wyf yn argyhoeddedig fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi eich ateb yn y Siambr hon, ond buaswn yn disgwyl i Ysgrifennydd y Cabinet fynd i'r afael â'r materion hyn yn nes ymlaen yn y dyfodol, yn enwedig y materion ariannu. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod bod Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn chwilio am atebion yn y maes hwnnw.
Adam Price eto—rwy'n mynd i ddod yn ôl eto. Pe bawn i'n dymuno gwneud hynny buaswn yn rhoi gwobr am yr araith orau, ond nid wyf am wneud hynny oherwydd credaf mai fy un i fydd honno. [Chwerthin.] Rwy'n tynnu coes. Yr hyn rwyf am ei wneud yw dweud wrth Adam Price ei fod wedi defnyddio ymadrodd cofiadwy a oedd yn dda iawn: 'offeryn creadigol'. Gallwn ddefnyddio'r polisi hwn fel offeryn creadigol i ailddyfeisio ein gwlad ddatgysylltiedig. Credaf fod honno'n weledigaeth fawr ar gyfer yr hyn y dylai ein polisi trafnidiaeth fod, ac rwy'n credu, mewn gwirionedd, ei fod eisoes wedi cael ei ategu yn yr hyn y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ceisio ei wneud.
Mewn gwirionedd mae gennyf lawer o gydymdeimlad â'ch beirniadaeth o'r dinas-ranbarthau hefyd. 'Olew nadroedd rhanbartholdeb dinesig', oedd yr hyn a ddywedoch chi. Rwy'n ysgrifennu'r troeon ymadrodd hyn gan fy mod yn gwneud fideos bob yn awr ac yn y man ac rwy'n tueddu i'w cynnwys ac maent yn dda iawn. Ond rydych yn llygad eich lle wrth sôn am gysylltu rhannau gogleddol cymunedau'r Cymoedd â'i gilydd, ar draws de-ddwyrain Cymru, a chysylltu de Cymru â'r gogledd. Credaf fod honno'n her aruthrol y mae'n rhaid inni roi sylw iddi. Rydym wedi siarad o'r blaen am ardd-drefi newydd yn cynnig atebion o'r fath o bosibl. Mae hwnnw'n syniad diddorol yr hoffwn ei archwilio yn y dyfodol o bosibl. Rwy'n credu bod ymyriad yn dod.