Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 9 Ionawr 2018.
Wel, yn gyntaf oll, hoffwn dalu teyrnged i'n holl staff ym mhob lleoliad—y meddygon teulu, y parafeddygon, yr ysbytai a gofal cymdeithasol—am eu hymdrechion anhygoel wrth ymateb i'r pwysau hwn. Mae'r gaeaf yn gyfnod anodd iawn bob amser. Bydd adegau bob amser pan fo'r galw yn rhoi ein gwasanaethau o dan bwysau mawr, sy'n golygu bod angen dwysau lleol. Roedd paratoadau trylwyr wedi eu gwneud, ond mae'r NHS yng Nghymru wedi bod o dan gryn bwysau yn gyson â'r hyn sy'n cael ei adrodd mewn rhannau eraill o'r DU. Cafwyd ymateb proffesiynol, rhoddwyd mwy o adnoddau ar gael ac mae'r sefyllfa yn sefydlogi erbyn hyn.