Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 9 Ionawr 2018.
Diolch. Rwy'n mynd i barhau gydag iechyd, Prif Weinidog. Dywedasoch y disgwylir pwysau'r gaeaf bob blwyddyn ac rydych chi'n iawn, a dylech chi fod yn cynllunio ar gyfer cynnydd sydyn i alw bob blwyddyn hefyd. A allwch chi ddweud o ddifrif eich bod chi'n credu bod y gwasanaeth iechyd wedi perfformio'n dda dros y gaeaf o ran ymdrin â'r pwysau a'r cynnydd sydyn i alw hynny a welsom?