Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 9 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:51, 9 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. A gaf i ddechrau ar nodyn o gyfeillgarwch—na fydd yn parhau, yn sicr—ar gychwyn cyntaf y trafodion, o leiaf, a dymuno blwyddyn newydd dda i'r Prif Weinidog, a'i holl Weinidogion yn wir? Ac rwyf wirioneddol yn dymuno pob llwyddiant iddyn nhw, er fy mod i'n credu ei fod yn annhebygol o gael ei wireddu. Ac a gaf i ddychwelyd at y pwynt a godwyd gan Steffan Lewis gynharach? Rwy'n siŵr y byddai pawb yn cytuno â hyn hefyd, a dweud ei fod wir yn ysbrydoliaeth i ni gyd ei fod yma heddiw, ac os nad yw'n rhagolwg rhy frawychus, rwy'n ei gefnogi'n llwyr yn ei frwydr yn erbyn ei glefyd ofnadwy.

Croesawaf y gronfa bontio y mae'r Prif Weinidog wedi ei chyhoeddi, ond onid yw'n cytuno â mi y byddai honno'n llawer mwy effeithiol pe na byddai Llywodraeth Cymru mor benderfynol o besimistaidd am y cyfleoedd a gyflwynir gan Brexit? Ac a gaf i ofyn iddo, yn 2018, am newid agwedd tuag at y cyfle hwn i Brydain gyfan? Ac os yw'n fwy cadarnhaol a brwdfrydig am y dyfodol, yna bydd gan fusnesau Cymru eu hunain fwy o hyder yn y dyfodol, a bydd buddsoddiad yn cynyddu, a byddwn i gyd yn well ein byd.