Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 9 Ionawr 2018.
Wel, mae'n wir i ddweud, wrth gwrs, y dyfarnwyd cymorth i E-Cycle, ac rwy'n falch ein bod ni'n darparu cymorth i ailgylchu. Byddwn yn parhau i gynorthwyo'r cwmni i nodi cyfleoedd newydd ar gyfer twf busnes. Mae'r cynllun gweithredu economaidd a gyhoeddwyd yn ddiweddar a chynllun cyflawni tasglu'r Cymoedd yn cydnabod effaith technoleg ddigidol, ac yn cyflwyno ein cynigion i ddiogelu economi Cymru ar gyfer y dyfodol.