Datblygu Economaidd

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 9 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu economaidd yng Ngorllewin De Cymru? OAQ51508

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:01, 9 Ionawr 2018

Nid oedd hynny wedi'i anelu ato fe, Llywydd. Ond a gaf i ddweud bod ein cynlluniau ar gyfer datblygu economaidd i’w gweld yn 'Ffyniant i Bawb' a’r cynllun gweithredu economaidd? Rŷm ni’n parhau i ddarparu amrywiaeth o gefnogaeth i fusnesau Cymru drwy, er enghraifft, Busnes Cymru a’r banc datblygu, a hefyd yn buddsoddi mewn seilwaith ac yn cymryd camau i wella amodau busnes. 

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru

Diolch yn fawr am yr ateb yna, Prif Weinidog. Nawr, yn naturiol, mae ffigurau GVA diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod economi Cymru yn parhau i fod yn waeth na gweddill y Deyrnas Unedig, gyda GVA y pen dim ond yn 72 y cant o'r cyfartaledd Prydeinig. Mae gennym ni hefyd anghydraddoldeb economaidd sylweddol yma yng Nghymru, gyda Chastell-nedd Port Talbot o fewn fy rhanbarth i, er enghraifft, bron i 10 y cant islaw cyfartaledd Cymru.

Nawr, mae pobl yn teimlo bod yr ardal yn cael ei hesgeuluso, ac nid ydynt yn argyhoeddedig y bydd ymdrechion y fargen ddinesig a thasglu'r Cymoedd yn cyflawni'r newid economaidd angenrheidiol i'n cymunedau, yn enwedig yng nghymoedd y sir. A ydych chi'n cytuno, felly, bod angen i Lywodraeth Cymru a chyngor Castell-nedd wneud llawer mwy i sicrhau bod ardaloedd fel cymoedd Abertawe, Nedd ac Afan yn dal i fyny â gweddill Cymru a'r Deyrnas Unedig yn economaidd?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:02, 9 Ionawr 2018

Wel, yn iawn, ond a gaf i ddweud, i ddechrau, wrth gwrs, fe wnaeth Llywodraeth Cymru lot fawr o waith ynghlŷn â sicrhau dyfodol gwaith dur Port Talbot? Fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddim, o beth y gallaf i ei weld. Fe siaradais i lawer gyda Tata yma yng Nghymru, a hefyd yn Mumbai, a gweithio gyda'r undebau er mwyn sicrhau dyfodol y gwaith dur. Rwy'n cofio, blwyddyn a hanner yn ôl, roedd y dyfodol hwnnw yn edrych yn sigledig dros ben. Ac, wrth gwrs, rŷm ni'n gwybod bod y gwaith dur yn talu'n dda yn yr ardal. Ac, wrth gwrs, trwy ddefnyddio tasglu'r Cymoedd, a hefyd gweithio gyda'r fargen ddinesig, mae'n hollbwysig bod y gwaith yn parhau. A gaf i ddweud ei fod e'n hollbwysig bod Castell Nedd Port Talbot yn ystyried eu bod nhw'n rhan o fae Abertawe ac yn gweithio gyda chyngorau eraill ym mae Abertawe er mwyn sicrhau dyfodol economaidd yr ardal yn gyfan gwbl?

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 2:03, 9 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Ers i mi fod yn Aelod o'r Cynulliad, sef y rhan helaeth o saith mlynedd erbyn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi dros £320 miliwn o arian trethdalwyr tuag at fusnesau yng Nghymru, sydd, wrth gwrs, yn cynnwys Gorllewin De Cymru. Erbyn mis Hydref, dim ond ar ddiwedd y flwyddyn diwethaf, clywsom fod llai na £7 miliwn o'r cyfanswm hwnnw wedi cael ei ad-dalu hyd yn hyn, a, hyd yn oed o safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig, sy'n croesawu mentro gofalus, mae honno wir yn gyfradd ad-dalu eithaf gwael. A fydd—ac rwy'n dyfynnu hyn— y Contract Economaidd rhwng busnes a llywodraeth, y cyfeirir ato yn y cynllun economaidd newydd, yn cynnwys gofyniad bod pob benthyciad yn cael ei ad-dalu yn llawn ac yn brydlon, ac yn cynnwys y darpariaethau perthnasol ar gyfer gorfodi?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:04, 9 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, bydd, ond nid yw hi'n dweud nad yw benthyciadau yn cael eu talu yn brydlon; y cwbl mae'n ei ddweud yw bod canran gymharol fach wedi cael eu had-dalu, y byddwn yn ei ddisgwyl ar hyn o bryd beth bynnag, o ran y broses—oni bai ei bod hi'n dweud ein bod ni'n mynnu bod benthyciadau yn cael eu had-dalu mewn cyfnod o amser nad yw'n briodol o ran creu swyddi. Wrth gwrs, rydym ni wedi bod o'r safbwynt erioed, dros y blynyddoedd, o sicrhau bod arian yn cael ei adennill lle gellir gwneud hynny. Rydym ni wedi cymryd camau i wneud hynny pan ddaw i gyllid grant, er enghraifft, a byddwn yn parhau i wneud hynny. A gaf i ei hatgoffa bod y pecyn gwerth £60 miliwn a roddwyd ar y bwrdd gennym wedi sicrhau goroesiad Tata Port Talbot ar adeg pan na wnaeth Llywodraeth y DU unrhyw beth? Gofynnwyd i Lywodraeth y DU ymdrin â phrisiau ynni; ni wnaeth unrhyw beth o gwbl am hynny. Gofynnwyd i Lywodraeth y DU ymdrin â'r mater o bensiynau; ni wnaeth unrhyw beth am hynny ychwaith. Gweithiodd Tata a ninnau gyda'n gilydd i sicrhau dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru wrth i Lywodraeth y DU sefyll o'r neilltu a gwneud dim.

Photo of David Rees David Rees Labour

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, rwy'n cytuno'n llwyr â'r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd i gefnogi Tata, yn enwedig yn fy ardal i, a methiant Llywodraeth y DU—dydyn nhw wedi gwneud dim yn llythrennol. Ond y cwestiwn yw—. Hoffwn ymhelaethu ar bwynt Dai Lloyd, rwy'n credu: mae canlyniad Tata yn colli ei weithlu wedi golygu bod wedi swyddi medrus sy'n talu'n dda wedi diflannu. Fel y gwelwn, mewn diwydiannau a busnesau sy'n dod i mewn, maen nhw'n tueddu i fod fwy ar sail contractau isafswm cyflog a dim oriau. Beth ydych chi'n ei wneud fel Llywodraeth i annog swyddi i'r ardal sy'n cyfateb y sgiliau a'r lefelau cyflog yr ydym ni'n eu gweld yn cael eu colli?

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:05, 9 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'n ymwneud â hyfforddiant mewn swydd. Yn gyntaf oll, polisi economaidd diwedd y 1980au a dechrau'r 1990au oedd denu buddsoddiad i Gymru yn seiliedig ar y ffaith fod gennym ni gyfraddau cyflog is nag unman arall yng ngorllewin Ewrop. Mae'r dyddiau hynny, diolch byth, wedi mynd. Rydym ni'n denu buddsoddiad sy'n talu'n dda erbyn hyn. Mae gennym ni fuddsoddwyr yn dod i Gymru na fydden nhw fyth wedi dod yma 20 mlynedd yn ôl. Ni fydden nhw wedi ystyried Cymru fel lle y gallen nhw gael y gweithlu medrus, sy'n cael ei dalu'n dda sydd ei angen arnynt. Dyna pam, wrth gwrs, mae gennym ni'r cynllun gweithredu economaidd. Dyna pam yr ydym ni wedi rhoi cymaint o bwyslais ar sgiliau trwy gynlluniau fel Twf Swyddi Cymru, i wneud yn siŵr bod gan ein pobl y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ennill mwy pan fydd buddsoddwyr yn dod i Gymru a phan fyddant yn sefydlu eu busnesau eu hunain. Dyna'r ateb, yn fy marn i, i wneud yn siŵr ein bod ni'n gweld gwerth ychwanegol gros y pen yn gwella dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.