Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 9 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:44, 9 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, wrth gwrs, mae'r adolygiad wedi cael ei gynnal, yn yr ystyr y disgwylir i'r adolygiad seneddol, rwy'n deall, gyhoeddi ei ganfyddiadau yn fuan iawn, a bydd hwnnw'n ystyried yn drawsbleidiol ar y ffyrdd y gellir cryfhau'r gwasanaeth iechyd. O ran meddygon teulu, mae'n iawn i ddweud, mewn un rhan o Gymru, y bu problemau ar ddau ddyddiad, rwy'n deall—nid mewn rhannau eraill o Gymru, ond roedd pwysau difrifol yn y fan honno'n benodol. Mae'n gofyn y cwestiwn: a oes angen i ni ystyried y rheswm pam y bu achosion penodol o gynnydd sydyn eleni, o'i gymharu â blynyddoedd blaenorol? Yr ateb yw, 'Ydy, mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni eisiau edrych arno', gan y bydd hynny'n rhan o barodrwydd y BILlau ar gyfer y gaeaf nesaf. Felly, o ran a oes modd ei atal, wel, mae pwysau ar y GIG ar yr adeg hon o'r flwyddyn bob amser, ac mae cynllunio bob amser i geisio ymdrin â phwysau o'r fath. Rhagweladwy? Na, dwi ddim yn credu, o ystyried y ffigurau yr ydym ni wedi eu gweld ar fwy nag un dyddiad dros gyfnod y gwyliau, pan fu cynnydd sylweddol i alw am alwadau ambiwlans, yn enwedig o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.