Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 9 Ionawr 2018.
A gaf i ddweud pa mor braf yw gweld yr Aelod yma? A bydd yn clywed o'r croeso y mae wedi ei dderbyn ewyllys da y Siambr hon, a'r cyfeillgarwch y mae'n ei fwynhau ymhlith llawer yn y Siambr hon, ar draws y pleidiau.
O ran ei gwestiwn, roedd y cyhoeddiad ddoe yn gyhoeddiad sy'n dangos i fusnesau, prifysgolion ac eraill ein bod ni'n rhoi arian o'r neilltu i'w helpu i ymdrin â chanlyniadau Brexit. Yr hyn nad ydym yn ei wybod, wrth gwrs, yw sut y bydd Brexit yn edrych, ac mae cymaint o'r manylion heb gael eu hystyried hyd yn hyn. Ond byddwn yn gweithio gyda phawb sy'n cael eu heffeithio ac yn rhoi cynllun syml ac effeithiol ar waith, i sicrhau bod y cynllun yn darparu'r cymorth y bwriedir iddo ei ddarparu.