Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 9 Ionawr 2018.
Nid ydw i yn erbyn hynny mewn egwyddor o gwbl. Mae yna lot o bethau i'w trafod ynglŷn ag STV, er enghraifft, a'r ffordd o ethol Aelodau i'r lle hyn. Mae record—wel, edrychwch ar feinciau Llafur Cymru yma. Ond mae beth mae wedi ei ddweud, a ddylem ni ystyried neu ddadlau a ddylai fod yna gyfartaledd rhwng menywod a dynion yn y lle hwn, rwy'n credu bod hynny yn rhywbeth y dylem ni ei drafod er mwyn sicrhau bod y record da sydd wedi bod gyda ni dros y blynyddau yn parhau yn y pen draw.