Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 9 Ionawr 2018.
Cyfeiriaf yn ôl at yr atebion a roddais i'r cwestiwn blaenorol, ond gallaf ddweud mai ein hasesiad ni yw bod gan Gymru gryn dipyn o gydnerthedd yn erbyn y gwaharddiad oherwydd ein polisïau ar gyfer ailgylchu ansawdd uchel. Hefyd, rydym ni'n gweithio i gael ansawdd uwch fyth ac i gynyddu'r nifer sy'n ailgylchu plastig yng Nghymru, gan ddiogelu busnesau a chreu swyddi.