Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 9 Ionawr 2018.
Gwnaf. Rydym ni'n gweithio gyda busnesau, undebau llafur ac eraill ar weithredu'r cynllun, y cynllun gweithredu economaidd, a bydd hwnnw'n cael ei lywio gan gyngor ac argymhellion y bwrdd gwaith teg. Gan ein bod ni wedi gofyn i'r bwrdd gwaith teg roi argymhellion i ni, ni fyddai'n briodol achub y blaen ar eu canfyddiadau trwy ymrwymo i feincnod Chwarae Teg ar hyn o bryd. Ond rwy'n croesawu'n fawr iawn menter Chwarae Teg o ddatblygu'r meincnod, a fydd yn helpu i gynorthwyo sefydliadau i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y gweithle.