Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 9 Ionawr 2018.
Wel, fel y dywedais i, y peth cyntaf yw sicrhau bod yr adroddiad ynglŷn â chyfrifoldeb y cynhyrchwyr ynglŷn â phecynnau bwyd a diod yn cael ei gyhoeddi. Bydd hwnnw'n cael ei gyhoeddi ym mis Chwefror. Unwaith bydd hwnnw wedi cael ei gyhoeddi, bydd yn ein helpu ni i wneud penderfyniad ynglŷn â'r ffordd ymlaen gydag unrhyw dreth.