Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 9 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:17, 9 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Gwnaf. Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol a chadarnhaol. Mae gwaith i'w wneud o hyd. Dangosir ein hymrwymiad i frwydro digartrefedd gan y flaenoriaeth a roddir iddo yn 'Ffyniant i Bawb' ac rydym ni wedi gweld buddsoddiad ariannol ychwanegol sylweddol o ran ymdrin â chysgu ar y stryd, gyda thai, gyda digartrefedd ieuenctid ac iechyd meddwl.