Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 9 Ionawr 2018.
Dylai fod yn brofiad cenedlaethol, does bosib, nad ydym ni yn allforio ein gwastraff ac, yn benodol, nad ydym ni'n allforio gwastraff plastig. Ie, gostwng faint o blastig yr ydym yn ei ddefnyddio, fel yr oedd Julie Morgan yn awgrymu, ond, pan fo plastig yn cael ei ddefnyddio, gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei ailddefnyddio cyn iddo hyd yn oed gael ei ailgylchu. Nawr, mae ailddefnyddio yn dibynnu ar system debyg i ryw fath o flaendal ar boteli, so rhyw fath o gynllun dychwelyd blaendal. Mae yna gytundeb rhwng ei blaid yntau a'm plaid innau ynglŷn ag edrych i mewn i hynny yn sgil y gyllideb. Pa fath o rôl y mae e'n ei gweld ar gyfer cytundeb o'r fath ac ar gyfer cynllyn o'r fath i wneud yn siŵr ein bod ni'n ailddefnyddio mwy o blastig?