Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 9 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:18, 9 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf oll, mae 10 mlynedd yn ymddangos yn amser hir, ond dyna mae'r sector yn ei ddweud wrthym sy'n realistig o ran rhoi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc. Cyn belled ag y mae'r arian yn y cwestiwn, bydd ar gael i unrhyw sefydliad sy'n gallu bodloni'r meini prawf cywir er mwyn helpu i sicrhau bod digartrefedd yn cael ei ddileu. Ond fe es i Llamau cyn y Nadolig, siaradais â phobl ifanc a oedd wedi cael eu helpu gan Llamau yn benodol. Un sefydliad ymhlith llawer yw Llamau, wrth gwrs, ac roedd yn galonogol gweld y gwaith y maen nhw wedi bod yn ei wneud a'r gwaith y maen nhw yn ei wneud. Ond rydym ni eisiau gweithio gyda'r rhai sydd yn y sector nawr i wneud yn siŵr bod yr arian hwnnw yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau gyda'r bwriad a rennir o roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru.