Part of the debate – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 9 Ionawr 2018.
Rwy’n falch iawn heddiw o lansio ymgynghoriad i lywio datblygiad ein cynigion deddfwriaethol i ddileu amddiffyniad cosb resymol. Mae'r strategaeth genedlaethol 'Ffyniant i Bawb' yn cydnabod bod rhianta hyderus, cadarnhaol a chydnerth yn hanfodol i baratoi plant ar gyfer bywyd, a’i bod yn bwysig darparu cymorth a chefnogaeth i rieni. Mae Llywodraeth Cymru yn falch iawn o’n hanes yng Nghymru o weithio i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd, ac o hyrwyddo hawliau plant. Dyma pam, fel Llywodraeth, yr ydym ni'n bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i gael gwared ar amddiffyniad cosb resymol. Rydym ni eisiau ei gwneud yn glir nad yw cosbi plentyn yn gorfforol yn dderbyniol yng Nghymru mwyach.
Mae'r ddeddfwriaeth arfaethedig yn rhan o becyn ehangach o fesurau sydd â'r nod o newid agweddau tuag at sut i fagu a disgyblu plant a phobl ifanc, drwy wneud cosb gorfforol yn annerbyniol a hyrwyddo dewisiadau amgen cadarnhaol. Fel Llywodraeth, rydym ni wedi buddsoddi'n sylweddol mewn rhaglenni rhianta ledled Cymru, ac mewn ymgyrchoedd gwybodaeth fel ‘Magu plant: Rhowch amser iddo’ i gefnogi rhieni i fod y gorau y gallant. Hoffem i’r ddeddfwriaeth gyflymu newid ymddygiadol yn y ffordd y mae rhieni’n disgyblu eu plant, a hoffem hefyd roi cymorth i’r rhieni i deimlo'n hyderus wrth ddewis dulliau disgyblu cadarnhaol a mwy effeithiol.
Mae ein gwybodaeth am yr hyn sydd ei angen ar blant i dyfu a ffynnu wedi datblygu’n sylweddol dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae’r ymadweithio rhwng rhieni a’u plant erbyn hyn hefyd wedi newid mewn ymateb i’r wybodaeth honno, ac mae agweddau'r cyhoedd tuag at arferion rhianta wedi newid hefyd. Rydym ni nawr yn gwybod bod cosbau corfforol yn gallu cael effeithiau negyddol hirdymor ar gyfleoedd bywyd plentyn ac rydym hefyd yn gwybod eu bod yn gosbau aneffeithiol. Er bod cenedlaethau blaenorol yn derbyn cosbi plant yn gorfforol fel arfer arferol, rydym yn gwybod bod mwy a mwy o bobl yn ei ystyried yn llai derbyniol a bod rhieni’n teimlo'n llai cyfforddus wrth ddefnyddio cosbau corfforol. Mae gennym hefyd ymrwymiad hirsefydlog i hawliau plant yn seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, ac mae'n rhaid inni gadw at yr ymrwymiad hwn.
Cyflwynwyd deddfwriaeth flynyddoedd lawer yn ôl i atal cosbi corfforol mewn ysgolion ac mewn lleoliadau gofal plant, ac nawr yw'r amser i sicrhau nad yw bellach yn dderbyniol yn unman. Rydym ni wedi ymrwymo i ddileu amddiffyniad cosb resymol a hoffem sicrhau ein bod yn datblygu cynigion deddfwriaethol sy'n addas at y diben, yn ogystal â sicrhau bod gennym becyn ehangach o fesurau ar waith i gefnogi rhieni.
Nawr, rwy’n gwybod bod gwahanol safbwyntiau am y ddeddfwriaeth hon. Er mwyn cyfrannu at ein dealltwriaeth o’i heffaith bosibl, rydym eisoes wedi ymgysylltu ag amrywiaeth eang o gyrff gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys yr heddlu, y gwasanaethau cymdeithasol a Gwasanaeth Erlyn y Goron. Mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle i ddatblygu ein cynigion ymhellach a rhoi cyfle i bawb ddweud eu dweud i’n helpu i geisio ymdrin ag unrhyw bryderon wrth ddatblygu’r ddeddfwriaeth. Ac rwy’n awyddus i sicrhau y gall y ddeddfwriaeth hon fynd rhagddi gyda chymaint â phosibl o gytundeb yn y Cynulliad hwn ac yng nghymdeithas Cymru yn ei chyfanrwydd. Mae’n arbennig o bwysig imi y dylai rhieni fod yn ffyddiog mai bwriad y gyfraith hon a’n hymdrechion ehangach i hyrwyddo rhianta cadarnhaol yw helpu i roi'r dechrau gorau posibl i’w plant mewn bywyd. Dyna yw ein bwriad ac rwy’n croesawu syniadau, drwy'r broses ymgynghori, ynglŷn â’r ffordd orau o gyflawni hynny, ac rwy’n edrych ymlaen at glywed gan Aelodau heddiw. Diolch.