Part of the debate – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 9 Ionawr 2018.
Diolch, Angela, ac efallai y gwnaf ddechrau, a dweud y gwir, drwy atgyfnerthu’r neges honno. Rwy’n meddwl y byddem i gyd, yn ôl pob tebyg, yn y Siambr hon, ac yn Llywodraeth Cymru ei hun, yn derbyn ac yn ategu'n llwyr y teimladau hynny sy’n dweud bod y mwyafrif helaeth o rieni yng Nghymru yn rhai sydd eisiau magu eu plant mewn amgylchedd cariadus, a gwneud hynny gyda llawer o ofal, gyda llawer o sylw, gyda llawer o anogaeth, gyda llawer o gymorth, a gan ddangos yr holl agweddau hynny ar rianta cadarnhaol yr wyf i mewn perygl o’u troi’n y slogan fwyaf erioed yma. Mae'n golygu cael eu magu mewn amgylchedd lle maent yn teimlo'n ddiogel a lle maent yn cael eu trysori a’u meithrin, a dyna’n union beth mae’r mwyafrif helaeth o rieni’n ei wneud. Ond, rwyf i’n rhiant i dri o blant. Dydyn nhw ddim yn dod gyda llyfrau rheolau, yn anffodus, oherwydd mae pob un yn wahanol. Mae fel rhai o'r dyfeisiau hynny rydych chi’n eu prynu ar y rhyngrwyd; mae gan bob un geblau gwahanol a phethau gwahanol sy’n eu cysylltu nhw ac ati. Ac rydym yn gwybod, weithiau, bod angen cymorth arnom. Felly, a dweud y gwir, mae rhan o'r ymgynghoriad hwn a rhan o fwrw ymlaen â hyn yn fater o ddarparu’r cymorth cywir i rieni a theuluoedd. A, gyda llaw, nid dim ond sôn am deuluoedd lle y ceir cymhlethdodau mawr o faterion a heriau yr ydym, ond am deuluoedd yn gyffredinol. Felly, mae hynny'n cynnwys, o'r ymwelwyr iechyd sy’n ymweld â theuluoedd i ddechrau, drwy'r ysgolion, drwy Teuluoedd yn Gyntaf, drwy Plant yn Gyntaf, yr holl bethau hynny, i helpu rhieni fel fi gymaint â neb arall. Ond, yn hollol gywir: mae’r mwyafrif helaeth o rieni’n gwneud gwaith gwych, ac yn gwneud hynny gyda'r bwriadau gorau yn y byd.
Y mater dan sylw yma yw: mae gennym yr hyn y byddem yn ei ystyried yn Llywodraeth—ac roedd yn sicr yn ein maniffesto ac mae wedi bod yn destun dadleuon ers cwpl o ddegawdau, gan gynnwys gan rai Aelodau yma pan oedden nhw'n Aelodau Seneddol hefyd, yn dadlau’r achos—cael gwared ar amddiffyniad nad yw, ar hyn o bryd, ond ar gael i rieni pan fyddan nhw'n defnyddio cosb gorfforol yn erbyn eu plant. Allech chi ddim defnyddio’r un amddiffyniad o gosb resymol pe byddech chi, er enghraifft, yn taro rhywun oedrannus â dementia, neu rywun 25 mlwydd oed ag anawsterau dysgu. Allwch chi ddim defnyddio’r un amddiffyniad, ond gallwch chi ddefnyddio’r amddiffyniad, yn llwyddiannus neu beidio, yn erbyn plant. Felly, mae'n fater o ddweud, yn sicr er mwyn cefnogi rhieni, darparu'r cymorth sydd ei angen, nid fel gwladwriaeth nani, ond, a dweud y gwir, mewn partneriaeth dda â rhieni, oherwydd rydym yn gwybod i ba gyfeiriad yr hoffem fynd, ac mae'n mynd i'r cyfeiriad hwn, ac, yn ail, i ddarparu eglurder, a chael gwared ar yr amddiffyniad hwn o gosb resymol.
Angela, gwnaethoch chi ofyn a oeddem wedi ystyried unrhyw opsiynau eraill. Rydym wedi gwneud hynny, ac rydym wedi bod yn ôl ac ymlaen o ran cyngor cyfreithiol, ac rydym wedi dysgu o dros 50 o enghreifftiau o wledydd eraill o wahanol fathau o awdurdodaeth gyfreithiol lle y maen nhw wedi gwneud fersiwn o gael gwared ar yr amddiffyniad hwn ac wedi nodi’n glir mai ymosodiad yw ymosodiad yw ymosodiad. Rydym wedi gallu dysgu oddi wrth hynny. Ond, mae gennym ein lleoliad cyfreithiol ein hunain o fewn y wlad hon a’r paramedrau yr ydym yn gweithio oddi mewn iddynt, a’r cyngor clir, cryf iawn yr ydym yn ei gael yw mai’r ffordd gliriaf o wneud hyn yw cael gwared ar amddiffyniad cosb resymol a’r hyn sydd ar ôl, mewn gwirionedd, yw’r hyn sydd yno ar hyn o bryd o fewn y gyfraith, sef trosedd ymosodiad.
Ar gyfer trosedd ymosodiad, mae angen clirio rhai rhwystrau. Nid yw mor syml â, 'rwyf wedi gweld rhywun a oedd yn gwneud rhywbeth â'u plant ac rwy’n meddwl ei fod yn ymosodiad, roedd yn ddrwg.' Ceir profion tystiolaethol er mwyn i Wasanaeth Erlyn y Goron ddweud, mewn llys barn, 'Rydym yn meddwl bod tystiolaeth yma bod ymosodiad wedi digwydd.' Yn ail, mae angen iddo fod er budd y cyhoedd. Rhan o’r rhesymeg budd y cyhoedd y tu ôl i fwrw ymlaen â chyhuddiad—fel y mae ar hyn o bryd, gyda llaw, ym mhob maes, ac eithrio o ran plant—fyddai nid yn unig a yw er budd y cyhoedd, ond a oes siawns resymol o erlyniad llwyddiannus.
Byddwn yn ei chyfeirio hi ac Aelodau eraill at adran 9 yr ymgynghoriad, oherwydd, o fewn honno, mae'n edrych ar dystiolaeth ryngwladol, ond hefyd y dystiolaeth o lle y defnyddiwyd hyn mewn gwledydd eraill, gan gynnwys Seland Newydd, gyda model ychydig yn wahanol. Ydy, mae wedi arwain, yn y blynyddoedd cynnar, at gynnydd mewn riportio; mae wedi arwain at erlyniadau ar achlysur; mae hefyd wedi arwain at rybuddio a rhyddhau llawer o bobl, ac, wrth gwrs, yna mae’r niferoedd yn lleihau, oherwydd mae newid diwylliannol yn digwydd—fel gyda deddfau gwregysau diogelwch, fel gyda llawer o bethau eraill—lle mae pobl yn derbyn nad yw'n rhesymol mwyach i gosbi plentyn yn gorfforol, yn ddim gwahanol i unrhyw aelod arall o'r gymdeithas.