Part of the debate – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 9 Ionawr 2018.
Bethan, diolch yn fawr iawn am hynny yn wir. Rwy’n meddwl bod llawer o'r materion manwl yr ydym yn dechrau cyffwrdd arnyn nhw nawr yn rhai y gallwn roi mwy o sylw iddynt wrth i’r ymgynghoriad fwrw ymlaen, ond gwnaf geisio ateb rhai ohonyn nhw nawr hefyd, os yw o gymorth. Mae'n werth dweud hefyd, o ddifrif, yr hoffwn ymgysylltu â holl Aelodau'r Cynulliad o bob plaid ar hyn, fel ein bod yn cael hyn yn iawn ar gyfer y dyfodol, ac mae hwnnw'n gynnig diffuant. Os gallaf wneud unrhyw beth i helpu gyda'r trafodaethau hynny, fi neu fy swyddogion, rwy’n hapus i wneud y cynnig.
Gwnaethoch y pwynt ynghylch peidio â chosbi rhieni â bwriadau da. Gwnaeth Angela bwynt tebyg yn ogystal. Hollol gywir; cwbl gywir. Wrth inni fynd drwy'r ymgynghoriad, mae'n rhaid inni daro’r cydbwysedd o gael gwared ar yr amddiffyniad hwn o gosb resymol, sydd, hyd eithaf fy ngwybodaeth, ond wedi bod yn bosibl ei ddyfynnu, mewn gwirionedd, wrth amddiffyn achosion dros y rhai blynyddoedd diwethaf, fwy na thebyg ddwsin o weithiau. Mewn gwirionedd, yn y pen draw dim ond mewn pedwar ohonynt y gellid wir ei ddefnyddio, ac yn y pedwar achos hynny, ar y cyfan, cafwyd yr unigolyn yn ddieuog neu gwrthodwyd yr achos. Felly, mae'n sefyllfa anarferol nad yw wir fel arfer yn arwain at ddim byd mewn llys, ond mae'n sefyllfa anarferol sy’n bodoli. Pan fyddwch yn siarad â gweithwyr proffesiynol rheng flaen sy'n gweithio mewn pethau fel Dechrau'n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, yn gwneud yr ymyriadau hynny—ymyriadau cynnar, doeth, da gyda rhieni—rwyf yn llythrennol wedi cael y sgwrs hon â nhw a dweud, 'Ydy’r eglurder y byddem yn ei roi gyda hyn yn broblem ichi, ynteu a fyddai'n helpu?' Ac mae pob un, pob menyw—oherwydd menywod yw pawb yr wyf wedi siarad â nhw sy'n gwneud yr ymyriadau rheng flaen hyn gyda theuluoedd—wedi dweud, 'Mae hyn yn rhoi’r eglurder y byddai ei angen inni.' Felly, yn ogystal â’r rhianta cadarnhaol, y cymorth a’r cyngor a’r gefnogaeth yr ydym yn eu rhoi i rieni, gallwn nawr ddweud, 'Edrychwch, gyda llaw, nid cosbi corfforol yw hyn; mae yna ffyrdd eraill, ac rydych chi'n gwybod y gallwn wneud hynny', ac rydym yn mynd ymlaen. Nid er mwyn cosbi rhieni â bwriadau da, ond i’w gwneud yn gwbl glir na fydd amddiffyniad o gosb resymol.
Does dim byd yn newid, gyda llaw, o ran pa gosbau sydd ar gael. Soniasoch am fater cosbau. Mae’r cosbau yn aros fel y maent ar gyfer ymosodiad, ac mae'r un profion tystiolaethol a phrofion lles y cyhoedd yn gymwys i ymosodiad. Y Cyngor Dedfrydu sy’n gosod canllawiau ar gyfer ymosodiad. Mae'r Cyngor Dedfrydu, a dweud y gwir, yn gosod canllawiau ar wahân sy'n ymwneud ag ymosodiad ar blant. Maent hefyd yn gosod canllawiau ar wahân sy'n ymwneud ag ymosodiad ar blant gan rieni sydd o dan 18 oed. Mae'r rheini i gyd yno. Does dim o hynny’n newid o gwbl, ond mae'n cael gwared ar ddefnyddio cosb resymol fel amddiffyniad am ymosodiadau yn erbyn plentyn.
Gwnaethoch chi ofyn, yn hollol ddealladwy, beth sydd wedi newid. Rwy’n meddwl ein bod wedi cael cyfnod o gasglu tystiolaeth i ddangos, un, y gallwn fwrw ymlaen mewn gwirionedd ac y gallwn wneud hynny ar sail gyfreithiol gadarn; ond, yn ail, casglu’r dystiolaeth fyd-eang honno sydd nawr yn dangos beth sy'n gweithio o ran rhianta cadarnhaol, yr effeithiau negyddol cyfanredol ar draws plant sy’n cael cosbau corfforol, a, hefyd, cyngor cyfreithiol hefyd—cyrraedd y pwynt lle gall cyngor cyfreithiol awgrymu—. Gyda llaw, rhaid imi fod yn hollol onest: nid wyf yn dweud na chaiff hyn ei herio’n gyfreithiol, oherwydd gallai hynny ddigwydd. Ond, yr hyn y mae’n rhaid inni ei wneud yn iawn o ran cymesuredd yw bod hawliau plant, sydd yn hawliau cyffredinol a diamod o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau'r plentyn, yn cael eu cydbwyso hefyd yn erbyn yr erthyglau hawliau Ewropeaidd hynny sy'n amddiffyn hawliau’r teulu a hawliau crefydd. Ond, mae ffordd o wneud hynny oherwydd mae’r ddwy gyfres hynny o hawliau—y ddwy olaf—yn hawliau amodol. Os gallwch chi ddangos bod y mesurau hyn yn angenrheidiol ac yn gymesur, fel yr rydym wedi'i wneud cyn hyn mewn meysydd polisi eraill, gallwch wir effeithio ar yr hawliau amodol hynny, os yw hawliau plant o ran amddiffyn y plant hynny yno o fewn y prif ddiben.
A oes gennym dystiolaeth o newid agweddau a newid ymddygiad? Oes. Unwaith eto, ni wnaf adrodd yr hyn sydd yn y ddogfen, ond rwy’n gobeithio y bydd pob rhiant, a phob gwarcheidwad a phob gofalwr, yn ogystal â sefydliadau, yn edrych ar y ddogfen hon. Rydym wedi ceisio rhoi cryn dipyn o’r wybodaeth orau sydd ar gael inni ynddi. Ond, ydynt, mae agweddau yng Nghymru’n newid ac mae agweddau yn y DU yn newid. Yr hyn sy'n arwyddocaol yw, lle mae'r dull hwn wedi’i ddefnyddio mewn gwledydd eraill, i’w gwneud yn glir na chewch chi ymosod yn gorfforol ar blentyn, bod hynny ynddo ei hun wedi creu newid oherwydd arwyddocâd pur dweud, 'Dim amheuaeth, dim os nac oni bai.' Mae wedi creu newid ynddo ei hun; mae’r agweddau tuag at gosb gorfforol wedi newid o ganlyniad i gyflwyno'r gyfraith hon. Mae ychydig yn debyg i’r gyfraith gwregysau diogelwch neu gyfreithiau eraill tebyg.
Yn olaf, soniasoch am y pwynt yno o ddefnyddio’r adnoddau presennol yn effeithiol. Mae'n hanfodol, i wneud i hyn weithio, ein bod yn gweld beth yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd ar lawr gwlad. Unwaith eto, ni wnaf ei adrodd fesul pennod ac adnod, ond maent wedi'u gosod allan yma: popeth rhwng ymyriadau iechyd, ymyriadau addysg, Dechrau'n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf, ardaloedd Plant yn Gyntaf ac ati. A ydym yn gwneud yn siŵr, ar draws y sector, ein bod yn rhoi’r cymorth cywir i’r rhieni cywir a’r teuluoedd cywir o dan yr amgylchiadau cywir yn gynnar iawn, fel ein bod yn osgoi cyrraedd y sefyllfa lle mae plant yn cael eu cosbi’n gorfforol?
Diolch am y cwestiynau. Rwy’n gwybod y byddwn yn dychwelyd at fwy o'r rhain yn fanwl wrth fwrw ymlaen â hyn, ond hoffwn hefyd wahodd Aelodau i ymgysylltu â mi wrth i’r ymgynghoriad hwn fwrw ymlaen, fel y gallaf glywed mwy o safbwyntiau fel hwnnw.