5. Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2018

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 9 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 4:05, 9 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Gydag ychydig yn fwy o fanylder, Dirprwy Lywydd, yn y rheoliadau gerbron y Cynulliad y prynhawn yma, mae'r ffigurau ariannol ar gyfer pobl o oedran gweithio, pobl anabl a gofalwyr ar gyfer 2018-19 yn cynyddu yn unol â mynegai prisiau defnyddwyr, hynny yw, 3 y cant. Mae hyn yn cyferbynnu â pholisi Llywodraeth y DU o rewi budd-daliadau pobl o oedran gweithio tan 2019-20. Y bwriad yw cynyddu'r ffigurau sy'n ymwneud ag aelwydydd pensiynwyr yn y rheoliadau i fod yn unol â gwariant isafswm incwm safonol Llywodraeth y DU ac adlewyrchu'r uwchraddio o ran budd-dal tai. Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno cyfyngiadau newydd ar fudd-dal tai i deuluoedd gyda dau o blant neu fwy, a phlentyn wedi ei eni ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017. Mae hynny'n ychwanegol at y cyfyngiadau a gyflwynwyd o fis Ebrill 2016, sydd yn dileu'r premiwm teulu ar gyfer genedigaethau newydd a hawliadau newydd am fudd-dal tai. Nid wyf i'n bwriadu mabwysiadu'r newidiadau hyn o ran gostyngiadau'r dreth gyngor yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i amddiffyn teuluoedd ar incwm isel yr effeithiwyd arnynt gan ddiwygiadau lles rhag toriadau pellach yn eu hincwm.

Wrth wneud y rheoliadau hyn, cafwyd cyfle hefyd i gynnwys mân newidiadau technegol ac i wneud newidiadau ychwanegol i adlewyrchu newidiadau eraill i fudd-daliadau a thaliadau cysylltiedig. Er enghraifft, o fis Ebrill 2018, bydd nifer o fudd-daliadau a thaliadau ychwanegol, os cymeradwyir y rheoliadau hyn, yn cael eu diystyru o ran cyfrifo'r gostyngiadau i'r dreth gyngor. Mae'r rhain yn cynnwys y taliadau cymorth profedigaeth newydd, y grant cynllun gwaed heintiedig, a'r grant iechyd thalidomid ymysg eraill. Ni fydd y rhai sy'n derbyn cymorth o'r fath yng Nghymru dan anfantais wrth gael help gyda'u treth gyngor.

Mae'r rheoliadau hyn, Dirprwy Lywydd, yn cadw'r hawl am ostyngiad yn miliau treth gyngor ar gyfer aelwydydd yng Nghymru. Gwnaed darpariaeth o £244 miliwn yn y gyllideb am 2018-19 at y dibenion hyn. O ganlyniad i'r cynllun, bydd tua 220,000 o aelwydydd sydd o dan y pwysau mwyaf yng Nghymru yn parhau i dalu dim treth gyngor yn 2018-19. Gwn fod gan y cynllun gefnogaeth gref ymysg Aelodau mewn gwahanol rannau o'r Siambr hon ers ei gyflwyno yn 2013, ac rwy'n gobeithio y bydd y gefnogaeth hon yn ymestyn i gymeradwyaeth o'r rheoliadau ger eich bron y prynhawn yma.