Part of the debate – Senedd Cymru am 4:57 pm ar 9 Ionawr 2018.
Nid oeddwn eisiau tarfu ar ei araith, ac rwy'n gwbl gytûn ag ef, ond a gaf i hefyd ei annog i ailadrodd y syniad rhagorol yr ysgrifennodd amdano tua phum mlynedd yn ôl gyda Mark Barry, sef creu llinell gylchol ar gyfer y Cymoedd, a ddylai mewn gwirionedd fod yn flaenoriaeth gyntaf ar gyfer y metro, yn hytrach na'r pwyslais hwn, yn anffodus, ar y cysylltiad â Chaerdydd?