Gwella Ffyrdd yn Ne-ddwyrain Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 10 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:18, 10 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Nododd y cwmni dadansoddi traffig INRIX yn ddiweddar fod dros 30,000 o dagfeydd traffig ar ffyrdd Cymru yn 2017. Roeddent yn amcangyfrif bod y gost i economi Cymru bron yn £278 miliwn—ffigur anhygoel—gallech adeiladu dau ysbyty o'r radd flaenaf gydag arian o'r fath. O ystyried yr oedi ar gynnydd prosiect ffordd liniaru'r M4 a deuoli ffordd A465 Blaenau'r Cymoedd, pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â phroblemau tagfeydd ar ffyrdd Cymru, os gwelwch yn dda?