Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 10 Ionawr 2018.
Ac i ychwanegu ystadegyn pellach, mae'n cyfateb i 10 y cant o'n cynnyrch domestig gros. Mae wedi gostwng yn ystod y mis diwethaf. Mae adeiladu masnachol a pheirianneg sifil yn arbennig yn wannach, ac mae hyn wedi arwain at fwy o ddibyniaeth ar adeiladu tai. Tybed pa weledigaeth sydd gennych ar gyfer adfywio ac ehangu'r sector adeiladu dros y pedair neu bum mlynedd nesaf, fel rydych wedi'i nodi yn eich amcanestyniad. Pa ran y bydd targedau mwy uchelgeisiol ar gyfer adeiladu tai yn ei chwarae yng Nghymru?