Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 10 Ionawr 2018.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Fel yr eglura ei gwestiwn, mae'r siarter hawliau sylfaenol yn ymestyn y tu hwnt i'r confensiwn ar hawliau dynol ac yn cynnwys hawliau eraill; soniodd am hawliau cydraddoldeb—ceir eraill sy'n ymwneud â data personol ac ati. Fe'i gwnaed yn glir yn 'Diogelu Dyfodol Cymru', a gynhyrchwyd flwyddyn yn ôl gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, fod angen inni fod yn wyliadwrus ac yn benderfynol wrth adael yr UE nad yw'r amddiffyniadau a'r safonau sydd o fudd i'n dinasyddion a llesiant y gymdeithas yn gyffredinol yn cael eu herydu. Am y rheswm hwnnw, a rhesymau eraill, rwyf eisoes wedi nodi ein pryderon nad yw Bil yr EU (Ymadael) yn cynnwys amddiffyniad ar gyfer y siarter ei hun.
Nawr, sonia yn ei gwestiwn fod peth trafodaeth neu anghydfod cyfreithiol ynghylch y siarter honno, ond mae'n amlwg y gellir ei defnyddio mewn modd ymarferol i warchod hawliau dynol pobl ledled y DU. Mewn penderfyniad gan y Goruchaf Lys cyn diwedd y llynedd, er enghraifft, defnyddiwyd y siarter i ddatgymhwyso deddfwriaeth sylfaenol nad oedd yn unol â darpariaethau'r siarter. Felly, mae hawliau a rhwymedïau cyfreithiol cwbl eglur a diamwys ar gael i aelodau o'r cyhoedd o ganlyniad i ymgorffori'r siarter.
Fel y soniodd yr Aelod, ddiwedd y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth y DU, yn ei geiriau ei hun, ddadansoddiad o'r gymhariaeth rhwng darpariaethau'r Ddeddf a'r gyfraith barhaus ar ôl Brexit, a pharheir, yn anffodus, na fydd siarter yr UE wedi'i chynnwys yn y Bil, sy'n destun cryn bryder.
Fe sonioch am y Bil parhad. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir mai'r lle i gadw'r amddiffyniadau hynny rwyf newydd eu crybwyll yw Bil ymadael newydd y DU. Mae'r ddau ohonom yn ymwybodol o welliannau a fydd yn cael eu cynnig yn y Senedd mewn ymgais i sicrhau bod y Bil yn cynnwys y pethau hynny. Fodd bynnag, pe bai'n rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno ein Bil ein hunain, yn amlwg, byddem yn ceisio gwneud popeth y gallem i sicrhau na fyddai hawliau dinasyddion Cymru yn cael eu herydu.