Deddf Cymru 2017

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 10 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:37, 10 Ionawr 2018

Wel, mae dadansoddiad cyfreithiol yr Aelod yn gywir mai dyna yw'r broses: hynny yw, mae angen cytundeb. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud sawl gwaith mai sicrhau bod gennym ni system sy'n gweithio a'n bod ni'n cydweithio â'r system sydd yn bwysig fel rhan o'r broses yma. Buaswn yn ategu sylwadau'r Ysgrifennydd Cabinet ar hynny, ac rwyf yn bwriadu cydweithio ag ef i sicrhau bod y Llywodraeth yn gwneud ein rhan ni i sicrhau llwyddiant yn hynny.