Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 10 Ionawr 2018.
Lywydd, a gaf fi ddechrau drwy gytuno â'r hyn a ddywedodd Simon Thomas ar ddechrau ei sylwadau? Mae'n hynod siomedig fod Llywodraeth y DU, ar ôl rhoi ymrwymiad pendant i gyflwyno gwelliannau yn y Cyfnod Adrodd, wedi methu gwneud hynny. Eu naratif drwy gydol Cyfnod Pwyllgor y Bil oedd eu bod am wrando ar yr hyn a ddywedwyd ac y byddent yn myfyrio ar hynny. A dywedodd Ysgrifennydd Gwladol yr Alban yn hollol glir, yn ystod rhan o'r ddadl honno, mai canlyniad yr ystyriaeth honno fyddai gwelliannau yn y Cyfnod Adrodd. Felly, wrth gwrs, rydym yr un mor siomedig nad felly y mae.
Gadewch i mi roi sicrwydd i'r Aelod nad wyf erioed wedi ymddiried yn y Torïaid ar y mater hwn nac unrhyw fater arall—[Torri ar draws.] Wel, pe bawn, buaswn wedi bod yn siomedig iawn yn yr achos hwn, oni fuaswn? Ond yr hyn sy'n rhaid i'r Llywodraeth gyfrifol ei wneud yw dwyn y Llywodraeth i gyfrif am yr ymrwymiad a wnaeth, ac felly byddaf yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol newydd, David Lidington, heddiw gan ei gwneud yn glir ein bod yn disgwyl y sicrwydd a roddwyd i'r Alban ac i Gymru yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion y byddai swyddogion yn cyfarfod ar frys fel y gallem weithio tuag at yr hyn y gobeithiwn y byddai'n gyfres o welliannau wedi'u cytuno i'r Bil ymadael—fod angen i'r trafodaethau hynny ddigwydd ar frys. Maent wedi cael eu gohirio, yn union fel y dywed Simon Thomas, oherwydd cyfyngderau'r blaid Geidwadol. Oherwydd yr anawsterau y maent yn eu hwynebu, bu'n rhaid i weddill y Deyrnas Unedig oedi cyn cael y trafodaethau hanfodol bwysig hyn.
Safbwynt Llywodraeth Cymru o hyd yw y byddem yn hoffi gweld y Bil ymadael yn llwyddo. Byddem yn hoffi bod mewn sefyllfa lle gallem gytuno ar welliant i gymal 11 gyda'r Llywodraeth Geidwadol a chyda Llywodraeth yr Alban, a gallem gyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol gerbron y Cynulliad hwn y gallem ei argymell i'w gymeradwyo. Ond rwy'n dweud eto wrth y Siambr hon ac wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig, os nad ydynt yn y sefyllfa honno, os ydynt yn parhau i lusgo traed, os ydynt yn parhau i fethu cael y trafodaethau angenrheidiol, mae gennym Fil parhad. Mae gennym Fil parhad rydym wedi'i baratoi, sydd mewn cyflwr sy'n barod i'w gyflwyno, ac os na allwn gael ateb drwy ddilyn y llwybr rydym yn ei ffafrio, sef drwy roi trefn briodol ar y Bil ymadael, bydd yn rhaid i ni gyflwyno'r Bil y mae Simon Thomas wedi cyfeirio ato.