Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 10 Ionawr 2018.
Wel, Lywydd, byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb unrhyw fargen yn drychinebus i economi Cymru ac i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Nid wyf yn credu y gallwn ddweud hynny'n rhy aml nac yn rhy uchel. Mae unrhyw leisiau ar ben arall yr M4 sy'n parhau i ddadlau y bydd Brexit heb fargen yn beth da i'r Deyrnas Unedig yn gaeth i'w golwg ideolegol ar y byd ac nid ydynt yn ystyried yr holl dystiolaeth a ddarperir i Lywodraeth y DU ddydd ar ôl dydd, nid gan Lywodraeth Cymru yn unig, ond gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain, gan gydffederasiwn y cyflogwyr, gan gymdeithas y cyfarwyddwyr. Mae tystiolaeth o'r angen i adael yr Undeb Ewropeaidd mewn modd trefnus, a hynny mewn ffordd rydym yn credu sy'n ein cadw mor agos ag y gallwn at y farchnad sengl mewn undeb tollau, gan ganiatáu i fusnesau yng Nghymru a swyddi yng Nghymru gael eu hamddiffyn—dyna'r math o Brexit rydym yn annog Llywodraeth y DU i fynd ar ei drywydd.
Yr hyn rydym yn ei wneud, ac mae'n dasg anodd iawn, yn y ffordd y mae Mick Antoniw wedi'i hamlinellu—rydym yn ceisio alinio ein hunain gyda, ac yn ceisio cryfhau'r lleisiau hynny yn Llywodraeth y DU sy'n barod i ddadlau dros ffordd o adael yr Undeb Ewropeaidd sy'n rhoi anghenion ein heconomi yn gyntaf. Weithiau, mae'n anodd clywed y lleisiau hynny yn stŵr y safbwyntiau eraill sy'n gwrthdaro o fewn y Llywodraeth ei hun, ond mae'n hanfodol mai ein gwaith ni yw cyflwyno'r achos, y gwyddom ei fod yn un cadarn a diogel, dros y math o Brexit sydd ei angen ar Gymru, a cheisio sicrhau bod yr achos hwnnw'n cael ei glywed gan y rhai yn Llywodraeth y DU sydd ag ymagwedd fwy ystyriol tuag at adael yr Undeb Ewropeaidd.