Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 10 Ionawr 2018.
Lywydd, gadewch i mi ei gwneud yn glir fod llythyr Prif Weinidog Cymru at y Prif Weinidog ar 6 Rhagfyr wedi cael ei lunio i geisio datgloi anallu Llywodraeth y DU i wneud y peth iawn a chyhoeddi ei bod yn bwrw ymlaen â chasgliadau adolygiad Hendry, ac yn caniatáu i brosiect morlyn llanw bae Abertawe fynd rhagddo. Er mwyn ceisio symud y sefyllfa hon yn ei blaen, dywedodd Prif Weinidog Cymru yn glir ein bod yn barod, yn yr amgylchiadau cywir, i ystyried buddsoddiad ecwiti a/neu fenthyciad sylweddol. Nid wyf yn mynd i allu darparu ffigurau penodol i'r Siambr y prynhawn yma oherwydd byddai'r ffigur hwnnw'n dibynnu'n fawr iawn ar Lywodraeth y DU yn cyflwyno cynnig ar y pris streic. Mae'r ddau beth ynghlwm â'i gilydd, ac ni allaf roi ateb synhwyrol i chi ar gam cyntaf trefniant o'r fath heb wybod beth oedd Llywodraeth y DU yn barod i'w gynnig ar yr ail.
Ond mae Suzy Davies yn iawn i ddweud mai'r hyn roeddem yn ceisio'i wneud oedd creu cynnydd mewn dau gyfeiriad. Roeddem yn barod i gynnig arian er mwyn helpu gyda'r gost o adeiladu'r morlyn llanw. Os mai dyna beth sy'n rhwystro Llywodraeth y DU rhag camu ymlaen, yna roeddem yn cynnig bod yn rhan o'r ateb i ddatrys yr anhawster hwnnw. Ond drwy fod yn barod i gynnig cyfalaf ar gyfer adeiladu'r prosiect, byddem hefyd yn gostwng cost hirdymor y benthyca sy'n rhan o'r prosiect, a dylai hynny ganiatáu i Lywodraeth y DU fod mewn sefyllfa well i gyflwyno cynnig ar y pris streic. Byddai'n is o ganlyniad i'r costau benthyca is. Felly, llwyddai ein cynnig—neu dyna a feddyliem—i gael effaith ar y ddau beth. Mae'n siomedig iawn nad yw Prif Weinidog Cymru wedi cael unrhyw ymateb o unrhyw fath i'w lythyr dyddiedig 6 Rhagfyr.
Rwyf am ei gwneud yn glir wrth y Siambr, Lywydd, fod Prif Weinidog Cymru, pan anfonodd ei lythyr, wedi penderfynu peidio â thynnu sylw ato yn fwriadol. Roedd eisiau gwneud yn siŵr fod y Prif Weinidog yn cael y cynnig mewn ffordd na allai fod yn agored i awgrymiadau ei fod ond yno er mwyn sgorio pwyntiau gwleidyddol, neu ei fod yno er mwyn creu embaras i'r Llywodraeth mewn unrhyw ffordd. Ysgrifennodd mewn termau a fyddai wedi caniatáu i'r Prif Weinidog—. Pe bai unrhyw fwriad go iawn ar ran y Llywodraeth i fwrw ymlaen â'r morlyn llanw, byddai wedi rhoi pob cyfle iddi fod wedi gwneud hynny. Yr unig reswm y mae'r llythyr yn y parth cyhoeddus yn awr yw oherwydd bod mis wedi bod ers ei ysgrifennu, ychydig ddyddiau sydd i fynd nes y bydd hi'n flwyddyn ers adolygiad Hendry, a dyma'r cynnig y mae Llywodraeth Cymru yn barod i'w roi ar y bwrdd. Rydym yn credu o ddifrif ei bod hi'n bryd i Lywodraeth y DU fwrw ymlaen yn y ffordd y mae pleidiau ar draws y Siambr hon—nid wyf yn dychmygu hyn o gwbl—mae pleidiau ar draws y Siambr hon wedi annog Llywodraeth y DU i'w wneud. Rydym yn dangos ein parodrwydd i helpu i oresgyn rhai o'r rhwystrau a all fod yn atal Llywodraeth y DU rhag gwneud y penderfyniad angenrheidiol a phwysig hwn i Gymru.