Morlyn Llanw Bae Abertawe

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 10 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 3:08, 10 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mewn llythyr at Lywodraeth y DU cyn y Nadolig, dywedodd y Prif Weinidog fod Llywodraeth Cymru yn barod i ystyried buddsoddiad ecwiti neu fenthyciad ym morlyn llanw bae Abertawe pe bai hynny'n galluogi'r prosiect i symud ymlaen drwy leihau cost cyfalaf.