Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 10 Ionawr 2018.
Diolch, Llywydd. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi nifer o welliannau i'r Bil heddiw, ond nid ydynt yn ymateb i'n gwrthwynebiad sylfaenol ni i'r Bil, yn enwedig y ffaith nad yw'n parchu'r setliad datganoli. Rydym yn dal i weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gyda'r bwriad o gytuno gwelliannau i'w cyflwyno yn Senedd San Steffan, ond nawr, wrth gwrs, yng nghyfnod Tŷ'r Arglwyddi.