Part of the debate – Senedd Cymru am 4:16 pm ar 10 Ionawr 2018.
Diolch i chi, Lywydd. Cyflwynaf y cynnig yn enw Paul Davies. Rwy'n dweud hefyd na fyddwn yn cefnogi gwelliant 'dileu popeth' y Llywodraeth, ond byddwn yn cefnogi gwelliant 2 gan Blaid Cymru. Ar hyn o bryd, rwy'n bwriadu ymatal ar welliant 3 Plaid Cymru, ond edrychaf ymlaen at glywed gan lefarydd Plaid Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet ar y mater penodol hwnnw.
Rwy'n tybio ei bod yn anodd i unrhyw un yn y Siambr hon anghytuno bod tagfeydd yn tynhau eu gafael ar ffyrdd Cymru a hefyd yn tynhau eu gafael, wrth gwrs, ar economi Cymru. Mae effaith economaidd ymarferol rhwydwaith trafnidiaeth annigonol Cymru yn ddifrifol. Mae'n costio £1.5 biliwn i yrwyr Cymru, ac mae'r gost economaidd fesul gyrrwr yng Nghaerdydd yn unig bron yn £1,000 y flwyddyn. Amcangyfrifodd astudiaeth ledled y byd gan INRIX ei fod yn costio £134 miliwn y flwyddyn i economi Caerdydd a swm cyfunol pellach o £130 miliwn y flwyddyn i economïau lleol Abertawe, Casnewydd, a Phen-y-bont ar Ogwr.
Hefyd, mae'r effaith i'w theimlo'n gryf yng nghanolbarth a gogledd Cymru, ac nid wyf yn credu bod angen i mi sôn wrthych am yr effaith ar economi'r Drenewydd yn fy etholaeth fy hun. Ni fydd Aelodau sydd wedi bod yma ers 2011 angen i mi ddweud rhagor am y problemau rwyf wedi sôn amdanynt droeon yn y Drenewydd—problemau y gobeithiaf y bydd ffordd osgoi'r Drenewydd yn eu datrys yn fuan ac yn trawsnewid rhagolygon economaidd trefi'r Drenewydd, Llanidloes, Machynlleth a threfi eraill i gyfeiriad gorllewin Cymru.
Ond ac eithrio ffordd osgoi'r Drenewydd, sydd i'w gweld yn dilyn yr amserlen yn weddol dda rwy'n falch o ddweud, nid yw'n ymddangos bod unrhyw un o brosiectau trafnidiaeth sylweddol eraill Llywodraeth Cymru yn datblygu yn ôl yr amserlen ac o fewn y gyllideb. Wrth gwrs, rwy'n agored ac yn barod i gael fy nghywiro ar hynny. Ond o ganlyniad i hynny, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud seilwaith ffyrdd yn brif flaenoriaeth yn 2018. Mae'r argyfwng yn galw am arloesedd a gweithredu, a heb hynny, bydd gyrwyr yn parhau i wynebu tarfu ar sail ddyddiol.
Y mis diwethaf, gwelsom oedi am 18 mis arall mewn perthynas â'r cynlluniau ar gyfer ffordd liniaru'r M4—trychinebus yn fy marn i o ran datblygu economi Cymru, yn enwedig o ystyried y cynnydd disgwyliedig mewn traffig yn ne-ddwyrain Cymru o ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth y DU, sydd i'w groesawu, i ddileu'r tollau ar bont Hafren. Mae'r oedi'n golygu y bydd ffordd liniaru arfaethedig yr M4 bellach yn costio £135 miliwn yn ychwanegol, a daw yn sgil newyddion arall y bydd gwaith uwchraddio arfaethedig ar ffordd Blaenau'r Cymoedd a chylchfan Pwll-y-Pant ger Caerffili hefyd yn costio mwy nag y cyllidebwyd ar ei gyfer ac yn wynebu oedi eithafol. Mae hyn yn golygu bod trethdalwyr Cymru bellach yn wynebu bil cyfunol o bron i £200 miliwn, arian y gellid bod wedi ei wario'n well ar gynlluniau eraill ym mhob cwr o Gymru.
Nawr, gan droi at ogledd Cymru, lle mae symudiadau trawsffiniol yn ffaith bywyd arall wrth gwrs, mae'n amlwg fod yn rhaid cael gwell cysylltedd rhwng gogledd Cymru a Phwerdy'r Gogledd sy'n datblygu yng ngogledd Lloegr. Mae gwelliannau i seilwaith trafnidiaeth coridor yr A55 a phontydd Menai yn gwbl hanfodol wrth gwrs. Credaf fod angen i'n seilwaith trafnidiaeth hwyluso llif symudiadau pobl a nwyddau ar draws y ffin i sicrhau y gall cymunedau gysylltu â'r diwydiant a buddsoddi mewn cyfleoedd a fydd yn eu tro, wrth gwrs, yn hybu economi a chynhyrchiant canolbarth a gogledd Cymru.
Mae'r rhwydwaith trafnidiaeth yng ngogledd Lloegr ar hyn o bryd yn elwa o gyfres o fuddsoddiadau Llywodraeth y DU, a bydd y buddsoddiadau hyn yn y rhwydwaith trafnidiaeth yn Lloegr yn creu manteision canlyniadol sylweddol i bobl sy'n byw yng ngogledd Cymru. Ond os yw Llywodraeth Cymru yn methu ymgysylltu'n effeithiol â Llywodraeth y DU, efallai na fydd y datblygiadau hyn yn rhoi ystyriaeth lawn i anghenion Cymru. Felly, galwn ar Lywodraeth Cymru i fynd ymhellach ac adeiladu perthynas waith gryfach â Llywodraeth y DU i ddod o hyd i ffyrdd arloesol o gyllido prosiectau ffyrdd yn y dyfodol a dilyn arweiniad Llywodraeth y DU a defnyddio ffrydiau ariannu i ganiatáu ar gyfer targedu gwelliannau penodol i rwydwaith ffyrdd Cymru.
Mae tagfeydd ar ein ffyrdd hefyd yn cael effaith enfawr ar y sector trafnidiaeth gyhoeddus. Mae gorlenwi yn broblem ar ein rhwydweithiau trenau, ond hefyd bydd y Cynulliad yn ymwybodol fod Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi cynnal ymchwiliad yn ddiweddar ar effaith tagfeydd ar y diwydiant bysiau yng Nghymru. Canfu fod tagfeydd ar deithiau bysiau yn gwneud pethau'n anrhagweladwy, yn cynyddu costau gweithredu a thocynnau, yn tanseilio hyder teithwyr, ac yn atgyfnerthu canfyddiadau negyddol o deithiau bysiau. I ddyfynnu o'n hadroddiad, dywedodd yr Athro David Begg fod
Tagfeydd traffig yn glefyd sy'n sicr o ddinistrio'r sector bysiau os nad eir i'r afael â'r broblem.
Roedd yr adroddiad yn nodi prif argymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu a chyhoeddi cynllun gweithredu i amlinellu sut y bydd yn mynd i'r afael ag effeithiau tagfeydd traffig ar y diwydiant bysiau yng Nghymru. Ond wrth gwrs rydym eto i weld ffrwyth y cynllun gweithredu hwnnw ac unrhyw welliannau mewn perthynas â thagfeydd ar ein ffyrdd.
Fel y dywedais o'r blaen yn y Siambr hon, mae'r sector trafnidiaeth gyhoeddus wedi ei ddal mewn sefyllfa amhosibl. Er mwyn lleddfu tagfeydd, mae angen annog pobl i ddod allan o'u ceir a newid i drafnidiaeth gyhoeddus, ond tra bo tagfeydd yn dal i effeithio i'r fath raddau ar drafnidiaeth gyhoeddus, mae'n annhebygol o ddod yn opsiwn deniadol. Felly mae'n gwbl hanfodol wrth gwrs fod Llywodraeth Cymru yn darparu cyfeiriad clir ar gyfer y camau sydd eu hangen i fynd i'r afael â thagfeydd a chreu'r amgylchedd cywir er budd trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn gorbwyso'r canfyddiadau negyddol.
Yn ei gwelliant mae'r Llywodraeth yn brolio'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol tra'n torri £93 miliwn o gyllid i'r polisi datblygu economaidd a'r polisi trafnidiaeth. Felly, mae diffyg cydlyniad yma rhwng 'Ffyniant i Bawb', cyllideb 2018 a'r cynllun gweithredu economaidd, sydd wedi golygu nad yw prosiectau trafnidiaeth hanfodol yn cael y lefel gyfatebol o gefnogaeth ariannol yng nghyllideb 2018.
Lywydd, credaf ei bod yn bryd bellach i Lywodraeth Cymru fod o ddifrif ynglŷn â hyn, ysgwyddo ei chyfrifoldeb a buddsoddi yn seilwaith Cymru er mwyn mynd i'r afael ar frys â chyflwr presennol y rhwydwaith ffyrdd yng Nghymru a sicrhau ei fod yn addas ar gyfer y dyfodol a chael Cymru i symud eto. Edrychaf ymlaen at gyfraniadau'r Aelodau y prynhawn yma.