Part of the debate – Senedd Cymru am 5:01 pm ar 10 Ionawr 2018.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch, wrth gwrs, i'r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw a hefyd am roi cyfle i mi ymateb i'r ddadl? Credaf nad oes unrhyw amheuaeth fod gennym gyfrifoldeb pwysig i sicrhau bod gan Gymru draffordd a rhwydwaith o gefnffyrdd diogel, dibynadwy ac effeithlon a all gefnogi economi a chymunedau ein gwlad. Ond rwyf am ei gwneud yn glir ar gychwyn fy nghyfraniad mai gwendid y cynnig hwn yw nad wyf yn credu ei fod yn ddigon ar ei ben ei hun. Mae'n ymwneud ag un elfen yn unig o'r gwaith o greu system drafnidiaeth gynaliadwy ac amlfoddol o ansawdd uchel sy'n gallu cynnal anghenion cymdeithasol, economaidd a chymdeithasol Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain.
Nawr, rydym yn gyfan gwbl o ddifrif ynglŷn â'n cyfrifoldeb am y ffyrdd, ac yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, rydym wedi gwario mwy na £150 miliwn ar waith cynnal a chadw a mân welliannau'n unig. Ond fel y dywedais, mae'n bwysig gweld y rhwydwaith ffyrdd fel rhan o system drafnidiaeth amlfoddol integredig a chynaliadwy ehangach. Mae angen i'n system drafnidiaeth gefnogi anghenion cymunedau ac ymwelwyr ar hyd a lled y wlad. Dyna pam y mae ein cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn nodi rhaglen uchelgeisiol o welliannau ffyrdd, rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol yn rhan o gynllun cytbwys a chynaliadwy ar gyfer buddsoddi mewn trafnidiaeth.
Rwyf am sôn mwy am y cynllun yn y man, ond yn gyntaf, hoffwn edrych ar yr hyn a gyflawnwyd gennym yn ddiweddar a'r gwaith sydd ar y gweill ar hyn o bryd ar lawr gwlad neu waith sydd yn yr arfaeth. Yn gyntaf oll, yr A55, y llwybr strategol allweddol yng ngogledd Cymru: y llynedd, cwblhawyd rhaglen gwerth £42 miliwn i sicrhau bod ei thwneli yn cyrraedd safonau cyfredol. Rydym yn buddsoddi £40 miliwn ar uwchraddio cyffyrdd 15 a 16, a £200 miliwn yng nghoridor Glannau Dyfrdwy i hwyluso'r math o lif traffig trawsffiniol llyfn y soniodd Russell George amdano.
Ond mae'r M56 ar ochr Lloegr i'r ffin hefyd yn galw am fuddsoddiad sylweddol, fel yr A5. Nawr, rwyf wedi bod yn gweithio'n agos gydag Owen Paterson, yr Aelod Seneddol sydd ar yr ochr arall i'r ffin i Dde Clwyd, ar yr angen i Lywodraeth y DU fuddsoddi yn y ffordd benodol honno. Rwyf wedi dweud y byddwn yn buddsoddi ar ochr Cymru; mae'n bryd i Lywodraeth y DU gynllunio i wneud hynny ar ochr Lloegr yn ogystal. Mae gwaith arall yng ngogledd Cymru yn cynnwys cyflymu'r dyddiad cwblhau ar gyfer trydedd croesfan y Fenai, a allai bellach fod wedi agor erbyn 2022; mae hefyd yn cynnwys datblygu'r ffordd osgoi arfaethedig o Gaernarfon i Bontnewydd, sy'n fuddsoddiad pellach o £125 miliwn i'r rhwydwaith.
Yng nghanolbarth Cymru, rydym yn buddsoddi £92 miliwn yn ffordd osgoi'r Drenewydd, y disgwylir iddi agor y flwyddyn nesaf, o fewn yr amserlen a'r gyllideb, fel y mae gwaith ar dwnelau Bryn-glas a'r M4 wrth gyffordd 28 yn gweithredu o fewn y gyllideb a'r amserlen. Hefyd, rydym wedi cyhoeddi'r gorchmynion drafft a datganiad amgylcheddol ar gyfer y gwelliannau a gynlluniwyd i Bont ar Ddyfi ac wedi cyhoeddi £50 miliwn o gyllid i gyflymu'r broses o gyflwyno ffordd osgoi'r A483 yn Llandeilo. Rydym wedi buddsoddi mwy na £0.25 biliwn yn ffyrdd gorllewin Cymru dros y 10 mlynedd diwethaf.
Wrth gwrs, yn ne Cymru, byddai coridor yr M4 o amgylch Casnewydd yn fuddsoddiad sylweddol yn ein seilwaith, ac rydym ar hyn o bryd yn buddsoddi dros £40 miliwn ar adnewyddu twnelau Bryn-glas. Ym mis Mehefin, agorodd y Prif Weinidog ffordd gyswllt ddwyreiniol y bae, a byddwn hefyd yn cwblhau ein prosiect deuoli heriol ar ffordd Blaenau'r Cymoedd erbyn 2022.