Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 10 Ionawr 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, roeddech yn gwneud mor dda yn yr araith honno, tan y diwedd un, ac yn gwneud cymaint o synnwyr hyd nes bod y neges fach honno o'r famlong Corbyn wedi llithro i mewn i'ch araith, gan aelod o staff mae'n siŵr. Ni allaf ddychmygu eich bod o ddifrif yn credu'r sylw hwnnw am gyni ar y diwedd. Rwy'n credu y byddech yn debygol o fod yn llymach ar y—. Nid wyf am greu helynt i chi, felly ni wnaf barhau.
A gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl heddiw? Ar ddechrau fy nghyfraniad, hoffwn dynnu sylw at y ffaith nad yw'r ddadl hon wedi ei chynllunio mewn unrhyw fodd i fychanu pwysigrwydd mathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus, megis trenau a bysiau. Nid ydym yn awgrymu, Lee Waters, mai adeiladu ffyrdd yn unig sy'n mynd i ddatrys y broblem i chi, fel y credid yn rhy aml drwy gydol y 1950au, 1960au, y 1970au a thu hwnt. Rydym yn cael llawer o ddadleuon yn y Siambr hon am yr angen i wella ein rhwydwaith rheilffyrdd a datblygu systemau metro yn ne Cymru a hefyd, yn gynyddol, yn y gogledd. Ac mae hyn yn sicr yn hanfodol er lles dyfodol economaidd Cymru. Ond—a dyma lle rwy'n cytuno gyda Ken Skates—mae angen dull cymysg o weithredu, a chrybwyllwyd hynny gennych ar ddechrau eich cyfraniad, Ysgrifennydd y Cabinet, dull cytbwys sy'n cydnabod yr angen i gael rhwydwaith ffyrdd modern wedi'i gynnal yn llawn, a chlyfar, fel y cafodd ei alw gan Adam Price. Felly, mae angen inni weithio tuag at hynny.
Wrth agor, croesawodd Russ George y cynnydd ar ffordd osgoi hirddisgwyliedig y Drenewydd, cynllun rydych wedi bod yn ei hyrwyddo bellach dros yr holl amser y buoch yma, Russ—a chyn hynny. Roeddech yn gresynu at arafwch rhai o'r cynlluniau eraill. At ei gilydd, mae'r problemau rydym wedi sôn amdanynt heddiw yn effeithio ar ardaloedd trefol a gwledig Cymru. Mae'n ystadegyn brawychus fod Caerdydd yn dioddef mwy nag unrhyw ddinas arall yn y DU o dagfeydd traffig heb fod ar oriau brig. Felly, effeithir ar fusnesau yma yn anghymesur gan ddiffyg hygyrchedd.
Soniodd David Rowlands a Mark Reckless am Rover Way. Gallaf ddweud nad ydych yn teithio ar hyd y ffordd honno cymaint ag a wnaf fi, mae'n debyg, Dave. Y ffordd i unman, fel y galwoch chi hi. Credaf mai fi oedd y person cyntaf i'w galw'n hynny, yn ôl yn ystod y Cynulliad diwethaf mewn dadl ar y gyllideb. Soniais hefyd ar y pryd am y gylchfan i unman a'r gyllideb i unman, ond roeddwn yn hael fy meirniadaeth ar y pryd am ei bod yn adeg pennu cyllideb ar gyfer y flwyddyn. Ond roedd y ffordd honno, neu mae'r ffordd honno, credwch neu beidio, yn rhan o brosiect ffordd ddosbarthu berifferol Caerdydd, a ddechreuwyd gyntaf yn 1978, 40 mlynedd yn ôl erbyn heddiw. Rydym wedi bod yn aros am 40 mlynedd i weld y ffordd berifferol honno yn cael ei chwblhau, ffordd a ddisgrifiwyd unwaith gan Paddy Kitson, cyn-gadeirydd pwyllgor amgylchedd Cyngor Sir De Morgannwg, fel mwclis ffyniant y ddinas. Wel, yn y pen draw, gallai fod yn fwclis ffyniant os yw'r cysylltiadau eu hunain yn cysylltu â'i gilydd o'r diwedd a'u bod yn mynd yr holl ffordd o gwmpas.
Ond roedd gennyf bryderon yn ôl yn y gyllideb honno—roedd yn rhan o fargen gyllidebol, i'r rhai ohonoch nad oeddech yma yn y Cynulliad diwethaf, rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Blaid Lafur ar y pryd. Rhan o hynny oedd dechrau camu tuag at gwblhau'r mwclis perifferol o ffyniant, ond cwestiynais ddilysrwydd adeiladu un cam o'r ffordd a pha un a oedd mewn gwirionedd yn sicrhau gwerth am arian. I bawb ohonom sy'n teithio ar hyd y ffordd honno yn awr, gallwch weld nad y ffordd honno'n unig sy'n profi tagfeydd ar adeg oriau brig; mae tagfeydd ar y ffyrdd cyfagos yn ogystal. Effeithir hefyd ar ffordd yr arfordir drwy Lansanffraid i Gasnewydd hyd yn oed. Felly, mae gwers i'w dysgu ynghylch gwneud penderfyniadau gwleidyddol byrdymor sy'n sicrhau pennawd i chi ar y pryd, ond dros y misoedd a'r blynyddoedd i ddod, nid ydynt yn eich galluogi i gyrraedd sefyllfa mewn gwirionedd lle bydd gennych gynllun trafnidiaeth integredig, a gwn mai dyna fyddai'r Llywodraeth yn hoffi ei gael.
Rydym wedi sôn am ffordd osgoi'r Drenewydd. Mae cynllun gwella'r A465 ym Mlaenau'r Cymoedd i'w groesawu ac mae'n addo gwella amserau teithio ar hyd y llwybr hwn yn aruthrol pan fydd wedi cael ei gwblhau. Fel yr AC lleol dros y rhan gyfredol honno o'r cynllun, gwn yn rhy dda am y problemau sydd wedi bod yn gysylltiedig â'i ddarparu. Ydy, mae rhan Cwm Clydach yn her fawr o ran peirianneg, ond mae maint y gorwariant rydym yn edrych arno, a grybwyllwyd gan Lee Waters yn ei gyfraniad, a hyd yr oedi a ddisgwylir, yn peri pryder. Weithiau fe gewch yr argraff ei fod yn achos o, 'Adeiladwch ef ar bob cyfrif, waeth beth fo'r amserlen.' Oherwydd bod prosiect yn gymhleth ac oherwydd ei fod yn creu heriau penodol o ran peirianneg, nid yw hynny'n golygu y dylech daflu pob math o swm o arian ato, waeth beth fo'r gost, a waeth beth fo'r amserlenni dan sylw, ac mae pryder nad yw'n ymddangos bod cyllideb 2018 yn darparu digon ar gyfer gorwariant tebygol. Felly, mae angen sicrwydd fod hyn oll yn fforddiadwy yn y pen draw.
Os caf grybwyll gwelliant y Llywodraeth yn fyr, mae'n ein cyfeirio at y cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, y cyfeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet ato, ac ar yr wyneb, mae'r rhaglen bum mlynedd o gyllid cyfalaf trafnidiaeth yn swnio'n iawn. Wrth gwrs, y broblem yw ein bod, yn rhy aml yn y Siambr hon, yn wynebu cynlluniau sydd, beth bynnag fo'u hyd, yn cael eu hanghofio yn niwloedd amser a'u gadael ar silffoedd llychlyd, cynlluniau nad ydynt mewn gwirionedd yn cyflawni'r amcanion y byddem wedi dymuno eu gweld ar un adeg. Felly, mae angen inni wneud yn siŵr fod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n dda ac nad ydym ond yn taflu arian at rywbeth nad yw'n mynd i weithio yn y pen draw.
Mae integreiddio'n allweddol i ddatblygu rhwydwaith trafnidiaeth modern, effeithlon a llwyddiannus. Rwyf wedi bod yn galw ers amser hir am sefydlu hyb metro yn y Celtic Manor, fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd hyn yn darparu pwynt da yn ne-ddwyrain Cymru ar gyfer datblygu cysylltiadau trafnidiaeth ychwanegol wedyn ag ardaloedd cymudo gwledig megis Trefynwy, a thu hwnt yn wir. Ond wrth gwrs, ar y cychwyn, gwasanaethau bysiau yw'r gwasanaethau eilaidd ychwanegol hynny'n fwyaf tebygol o fod, gan wneud defnydd o ffyrdd a lonydd bysiau sy'n bodoli'n barod. Felly, unwaith eto, gwelwn bwysigrwydd cynnal y ffyrdd hynny. Nid yw'n fater syml o ddweud y gallwch roi popeth ar reilffyrdd ysgafn, gallwch roi popeth ar rwydwaith metro rheilffyrdd ac nad oes angen i chi gynnal y ffyrdd presennol. Mae arnom angen system gytbwys.
I gloi—rwy'n dod i ben, Ddirprwy Lywydd—hoffwn ddweud ychydig am gaffael, nad wyf yn meddwl ei fod wedi cael ei grybwyll gan yr Aelodau heddiw. Sylweddolaf nad yw'n benodol yn rhan o friff Ysgrifennydd y Cabinet, ond rwy'n teimlo bod angen polisi caffael seilwaith newydd. Galwodd adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru fis Tachwedd diwethaf am welliant clir yn y modd y mae awdurdodau'n caffael gwasanaethau ar lefel genedlaethol, ac oddeutu 20 y cant yn unig—23 y cant—o wariant Llywodraeth Cymru ar waith adeiladu yn 2016-17 a enillwyd gan gwmnïau yng Nghymru. Nid yw hynny'n ddigon da. Beth bynnag fo'r prosiect seilwaith y gallech fod yn sôn amdano—ac yn yr achos hwn mae'n amlwg mai ein rhwydwaith ffyrdd ydyw—mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn caffael gan gwmnïau o Gymru, ac i ddychwelyd at sylwadau Suzy Davies yn ei chyfraniad, mae angen sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd mwyaf o'r sefyllfa leol, gan gaffael yn lleol a gwneud defnydd da o'r rhwydwaith ffyrdd lleol yn ogystal. Oherwydd mae'n ymwneud â mwy na'r rhwydwaith ffyrdd cenedlaethol—y rhwydwaith traffyrdd—mae'n ymwneud â sicrhau cymaint o ddefnydd â phosibl ar ein ffyrdd gwledig llai, sydd, mewn llawer o rannau o'r Gymru wledig, yn dadfeilio.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, a gaf fi ddiolch i bawb a gyfrannodd at y ddadl hon heddiw? Credaf ei bod wedi bod yn ddadl werth chweil, a chredaf mai'r hyn a ddangosodd yw bod angen inni wneud yn siŵr fod gennym gynllun trafnidiaeth cytbwys, a dull cytbwys o ddarparu ar gyfer anghenion trafnidiaeth Cymru yn y dyfodol. Os na chawn hyn yn iawn, yna yn y tymor canolig a'r tymor hir bydd economi Cymru yn dioddef. Nid oes yr un ohonom yma am i hynny ddigwydd, felly gadewch inni ddechrau'r cynnydd hwnnw tuag at y dyfodol yn awr a gwneud yn siŵr fod gennym rwydwaith ffyrdd yng Nghymru sy'n ategu ein trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, ac sy'n diwallu'r anghenion cymudo a thrafnidiaeth y mae'r Cymry fwyaf o'u hangen.