Part of the debate – Senedd Cymru am 5:07 pm ar 10 Ionawr 2018.
Mae wedi hyrwyddo'r cyfle y mae ceir awtonomaidd yn eu cynnig i Gymru, ac rwy'n ei gefnogi'n llawn yn hynny o beth. A yw'n cydnabod, mewn gwirionedd, fod yn rhaid i ni, er mwyn manteisio'n llawn ar y cyfle hwnnw, fuddsoddi yn ein rhwydwaith ffyrdd, marciau ffordd, arwynebau ffyrdd ac yn y blaen, ac argaeledd 5G? Felly, mae angen inni greu rhwydwaith ffyrdd clyfar a fydd yn caniatáu inni fanteisio i'r eithaf ar y cyfle hwnnw.