Part of the debate – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 16 Ionawr 2018.
Diolch i'r Aelod am yr hyn yr wyf i'n ei ystyried yn dri phrif gwestiwn. O ran contractau sydd gan Lywodraeth Cymru, mae un contract—y contract sy'n gysylltiedig â cham dylunio cyffyrdd 15 ac 16 ar yr A55, a ddyfarnwyd ar ôl y rhybudd gwreiddiol am Carillion ym mis Gorffennaf y llynedd. Ar yr adeg pan gyhoeddwyd y rhybudd hwnnw, cafodd y broses gaffael ei hoedi dros dro, a cheisiwyd rhagor o sicrwydd gan y cwmni. Cafwyd y sicrwydd hwnnw, a lliniarwyd risgiau a allai fod wedi chwarae rhan yn hynny o beth. Nid oes unrhyw gontract arall wedi'i ddyfarnu ers mis Gorffennaf y llynedd.
O ran Abellio a'r trefniadau masnachfraint, credaf fod nifer o sylwadau y dylwn i eu gwneud. Yn gyntaf oll, mewn ymateb uniongyrchol i gwestiwn Adam Price, mae Trafnidiaeth Cymru, ar ôl gweld y datblygiadau ym mis Gorffennaf ac yn ystod yr hydref, wedi bod yn rhan o broses i sicrhau bod sylfaen ariannol angenrheidiol y cynigion yn ddibynadwy, ac maen nhw wedi bod yn trafod ag Abellio ar y sail honno. Yn union ar ôl y digwyddiadau yn gynharach yr wythnos hon, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cael cyngor cyfreithiol fel ein bod yn glir ynghylch a oes unrhyw effeithiau o'r datblygiadau hyn ar y broses fasnachfraint. Mae'r cwmni ei hun yn cymryd camau i wneud yn siŵr ei fod mewn sefyllfa i fwrw ymlaen â chynnig, os yw'n dewis gwneud hynny. Ac mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau canlyniad terfynol yn y broses dendro a fydd yn arwain at wella gwasanaethau y mae pobl yng Nghymru yn dymuno eu gweld yn cael eu sicrhau.
Y trydydd cwestiwn y mae'r Aelod yn ei godi yw'r un ehangaf, wrth gwrs. Bydd ef wedi gweld, rwy'n siŵr, darn yn y Financial Times heddiw o'r enw 'The Problem of Bigness', lle mae'r awdur yn trafod yr anawsterau sy'n digwydd i sefydliadau contractio cyhoeddus mewn marchnad lle y bu cryn gyfuno ac nad yw nifer y cwmnïau yn y maes yn arwain o reidrwydd at gystadleuaeth wirioneddol. Felly, mae hynny yn dod i'r amlwg yn anochel yn y profiad gyda Carillion, ac mae e'n iawn i dynnu sylw at y ffaith y bydd pob awdurdod cyhoeddus sy'n ymwneud â sicrhau gwasanaethau angenrheidiol drwy gontractio allan eisiau adolygu'r profiad hwn, dysgu'r gwersi oddi wrtho a gwneud yn siŵr na chaiff arian cyhoeddus ei beryglu yn ddiangen yn y dyfodol.