Anifeiliaid Gwyllt Mewn Syrcasau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 16 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:50, 16 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'n eglur, yn dilyn yr ymgynghoriad diweddar ar drwyddedu arddangosion anifeiliaid symudol, bod cefnogaeth eang i waharddiad ar y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau, ac mae swyddogion yn ystyried sut i fynd i'r afael â'r mater hwn. Afraid dweud bod y ffordd yr ydym ni'n trin ein hanifeiliaid yn adlewyrchiad pwysig o werthoedd ein cymdeithas. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 9 Hydref, a gwn fod y Gweinidog yn mynd ati nawr i ystyried y ffordd orau o symud ymlaen.