Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 16 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:55, 16 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Llywydd. Bydd y Prif Weinidog yn cytuno â mi ei bod yn ddymunol, er mwyn sicrhau gwerth am arian mewn contractau cyhoeddus, y dylai fod amrywiaeth resymol o ymgeiswyr credadwy. Nid oedd yn gwbl eglur i mi o'r ateb a roddodd yr Ysgrifennydd dros gyllid i Adam Price yn gynharach beth fydd effaith cyfreithiol methiant Carillion o ran cynnig Abellio. Dim ond tri o gynigwyr sydd yn yr ornest ar hyn o bryd. Os caiff Abellio ei dynnu ohoni, mae hynny'n golygu, wrth gwrs, mai dim ond dau gais sydd gennym. Beth yw goblygiadau hyn i'r egwyddor gyffredinol honno o sicrhau gwerth am arian trwy gael cystadleuaeth gredadwy am y contractau mawr hyn? Mae hwn yn gontract sy'n effeithio nid yn unig ar fasnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r gororau, ond hefyd ar drydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd yn rhan o'r prosiect metro, a bydd y contract hwn yn cael ei osod am 15 mlynedd. Felly, mae iddo ganlyniadau hirdymor. Tybed a allai'r Prif Weinidog roi ychydig mwy o eglurhad i ni ar y pwynt hwn.