Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 16 Ionawr 2018.
Rwy'n ymwybodol o'r newidiadau sydd wedi eu gwneud. Rwyf hefyd yn ymwybodol bod y bwrdd iechyd wedi cynnal ymgynghoriad cyhoeddus dros gyfnod o 12 wythnos. Mae hwnnw'n dal yn agored, a byddwn yn annog i bob safbwynt gael ei gyfrannu i'r ymgynghoriad hwnnw. Rwyf hefyd yn ymwybodol bod y Bwrdd Iechyd wedi trafod dewisiadau ar gyfer datblygu Ysbyty Cymuned Cas-gwent yn y dyfodol ac wedi sefydlu gweithgor i ddatblygu cynigion ar gyfer dyfodol y cyfleusterau lleol ardderchog, ac rwyf hefyd yn deall bod y bwrdd iechyd yn disgwyl i adroddiad cychwynnol gael ei gyflwyno yn y gwanwyn.