Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 16 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:57, 16 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, gyda'r hyn sydd wedi digwydd yr wythnos hon, er na ellid bod wedi ei ragweld yn hyderus, roedd yn amlwg bod posibilrwydd uchel bod Carillion yn mynd i fynd i drafferthion na allai gael ei hun allan ohonynt. Wedi'r cyfan, cawsom ni'r rhybudd elw cyntaf ym mis Gorffennaf. Ym mis Medi, gostyngodd y cyfranddaliadau yn Carillion 60 y cant mewn dau ddiwrnod. Dair wythnos wedi hynny, roedd rhybudd elw arall. Ar 17 Tachwedd, rhybuddiodd Carillion ei fod yn mynd i fynd yn groes i'w gyfamodau bancio, ac mae'n rhaid bod hynny wedi mynd i galon hygrededd y rhan honno o gynnig Abellio, ac o ystyried mai nhw oedd y partner adeiladu a ffafriwyd, roedd hyn yn amlwg yn arwain at oblygiadau aruthrol i hygrededd y cynnig hwnnw.

A gymerwyd unrhyw gamau gan Trafnidiaeth Cymru, neu unrhyw gyfranogiad gan Lywodraeth Cymru yn y cyfnod ar ôl mis Gorffennaf i geisio diogelu'r broses ymgeisio rhag y posibilrwydd o fethiant cynnig Abellio? Oherwydd, pe byddai Abellio wedi gallu cael gafael ar ryw bartner adeiladu eraill, neu gadw un wrth gefn yn y cyfamser, efallai y byddai hynny wedi gallu achub yr elfen hon o'r broses ymgeisio.